Mwynhau atyniadau Gwynedd yn ddiogel dros y Pasg

Dyddiad: 01/04/2026

Wrth i benwythnos y Pasg nesáu, mae sefydliadau lleol yng Ngwynedd yn atgoffa unrhyw un sy’n bwriadu ymweld ag atyniadau poblogaidd y sir i gynllunio eu ymweliadau o flaen llaw ac i fod yn ystyrlon o gymunedau lleol.

Mae cyfnod y Pasg yn nodi dechrau’r prif dymor ymwelwyr yng Ngwynedd a rhagwelir cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Bydd Cyngor Gwynedd yn parhau i weithio’n agos gyda’i bartneriaid – gan gynnwys Parc Cenedlaethol Eryri a Heddlu Gogledd Cymru – i annog ymwelwyr i fwynhau’r ardal yn gyfrifol, gan ddiogelu’r amgylchedd naturiol ac atyniadau sir.

Mae’r awdurdodau yn awyddus i annog unrhyw un sy’n ymweld i:

  • Gynllunio o flaen llaw –trefnwch eich ymweliad a gweithgareddau o flaen llaw gan gynnwys gwirio amseroedd llanw a’r rhagolygon tywydd.
  • Gwiriwch eich taith gerdded cyn cychwyn- gyda’r tywydd gwael wedi effeithio cyflwr dan draed rhai o lwybrau cyhoeddus Gwynedd dros y gaeaf (gan olygu gorfod cau ac ail-gyfeirio rhai llwybrau ar gyfer diogelwch y cyhoedd). Cofiwch osgoi yr ardaloedd hyn a chynllunio eich taith gerdded ymlaen llaw gan wirio gwefan https://www.walescoastpath.gov.uk/?lang=cy am y wybodaeth diweddaraf. Ystyriwch wneud defnydd o rwydwaith y Lonydd Glas – adnodd gwych sy’n addas ar gyfer pob tywydd. 
  • Parcio yn gyfrifol – gwiriwch ble mae’r meysydd parcio pwrpasol. Gall parcio'n anghyfrifol a rhwystro ffyrdd ei gwneud hi'n anodd i'r gwasanaethau brys basio - cofiwch hyn wrth barcio. . Mae gwybodaeth am feysydd parcio Cyngor Gwynedd ar y wefan www.gwynedd.llyw.cymru/parcio
  • Cartrefi modur – cofiwch fod gan y Cyngor safleoedd Arosfan penodol ar gyfer parcio cartrefi modur dros-nos. Mwy o fanylion ar y wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/arosfan
  • Trafnidiaeth gyhoeddus –defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus ble’n bosib i osgoi tagfeydd, ac i barchu’r amgylchedd. Mae amserlenni bws Gwynedd, gan gynnwys Sherpa’r Wyddfa, ar wefan y Cyngor: www.gwynedd.llyw.cymru/bws
  • Parchwch ein cymunedau – byddwch yn ystyrlon o’r amgylchedd ac o drigolion lleol a dilynwch unrhyw reoliadau neu arwyddion rhybydd lleol. Cofiwch fynd a unrhyw sbwriel adref gyda chi neu ei waredu mewn bin cyhoeddus. Dylai perchnogion cŵn bob amser godi a gwaredu llanast eu hanifail anwes.

Dywedodd Gerwyn Jones, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd (Trafnidiaeth) Cyngor Gwynedd:

“Gyda niferoedd cynyddol o bobl yn ymweld â llecynnau poblogaidd Gwynedd mae’n bwysig fod unrhyw un sy’n ymweld â’r ardaloedd hyn yn ymddwyn yn barchus ac yn cynllunio’u hymweliadau o flaen llaw.

 “Rwyf yn annog unrhyw un sy’n bwriadu cerdded Llwybr yr Arfordir i gymryd gofal ac i gynllunio cyn cychwyn. Mae’r tywydd gwael dros y gaeaf wedi effeithio ar gyflwr nifer o lwybrau cyhoeddus yng Ngwynedd, gan olygu bod rhai wedi gorfod cael eu cau neu eu hailgyfeirio.”

“Mae amserlen tymor yr haf gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa bellach yn ei le, sy’n cysylltu llwybrau poblogaidd Yr Wyddfa gyda’r trefi a’r pentrefi cyfagos, gan gynnwys bws rhwng Llanberis a Pen y Pass bob hanner awr.

“Fel Cyngor rydym yn parhau i gydweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri i fonitro’r tueddiadau parcio ac i gadw’r cyhoedd yn ddiogel ar y ffyrdd.

“Mae’n hynod bwysig fod ein ffyrdd yn glir i ganiatáu’r gwasanaethau brys i fedru gwneud eu gwaith ac i sicrhau llif traffig. Gofynnwn i fodurwyr barcio’n synhwyrol gan barchu’r cyfyngiadau parcio a chadw’r ffyrdd yn ddi-rwystr a diogel.

“Os bydd angen, bydd swyddogion yr Heddlu a’r Cyngor yn defnyddio eu pwerau i gymryd camau priodol i symud cerbydau sydd yn parcio’n anghyfreithlon, a hynny er diogelwch y cyhoedd.

Ychwanegodd Angela Jones, Pennaeth Partneriaethau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Rydym ni wir eisiau i bawb fwynhau’r holl sydd gan Eryri i’w gynnig dros gyfnod y Pasg ond mae’n bwysig bod pobl yn gwneud hynny mewn ffyrdd diogel a chyfrifol. Rydym eisoes wedi gweld mwy o alwadau nag erioed i dimau achub mynydd sy’n gweithredu yn Eryri eleni, a rhai o’r timau’n delio â sawl digwyddiad ar yr un diwrnod.

Er mwyn lleihau’r pwysau ar y gwirfoddolwyr hyn, mae angen i bobl sylweddoli natur y tirweddau, gall y mynyddoedd fod yn ardaloedd anniogel heb gynllunio o flaen llaw. Dylai ymwelwyr sicrhau eu bod wedi paratoi’n drwyadl a bod ganddyn nhw’r offer cywir ar gyfer pob tirwedd, digon o fwyd a dŵr, yn ogystal ag ymgyfarwyddo â negeseuon Mentra’n Gall â’r Côd Cefn Gwlad.”

Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol am gynllunio ymlaen llaw ar wefannau Eryri Mynyddoedd a Môr: www.ymweldageryri.info/cy/cynllunio-eich-ymweliad a Pharc Cenedlaethol Eryri: www.eryri.llyw.cymru/ymweld/cynllunio-eich-ymweliad/