Cyfle i weld arddangosfa CELF yn Storiel, Bangor

Dyddiad: 30/04/2026

Mae arddangosfa gelf newydd wedi agor yn Storiel sy’n archwilio'r syniad o ‘gartref’ a chyfres o weithgareddau i gyd-fynd wedi eu trefnu dros y dyddiau nesaf. 

Bydd sgwrs gyda’r artist Michal Iwanowski i drafod ei yrfa a’r arddangosfa deithiol ymlaen yn Storiel ar ddydd Gwener 1 Mai, 2026 am 2pm, a cyfle i fwynhau prynhawn o gerddoriaeth ddydd Sadwrn, 2 Mai am 2pm yng nghwmni Malgola No! - cantores a chynhyrchydd pop celfyddydol o Wlad Pwyl. Archebwch le o flaen llaw drwy gysylltu â Storiel www.storiel.cymru

Yn 2008 daeth Michal Iwanowski, sy’n enedigol o Wlad Pwyl ac erbyn hyn wedi ymgartrefu yn ninas Caerdydd, ar draws graffiti ger ei gartref yn dweud ‘Go Home, Polish’.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, yng nghanol dilyniant Brexit ac Ewrop ranedig, ymgymerodd â thaith anhygoel dros 1900km ar droed rhwng Cymru a’i bentref genedigol, Mokrzeszów yng Ngwlad Pwyl. Aeth y daith drwy Gymru, Lloegr, Ffrainc, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, yr Almaen a Gweriniaeth Tsiec. Prif nod y daith oedd archwilio a deall y syniad o ‘gartref’. Cymerodd y daith 105 diwrnod i’w chwblhau, a thrwy hynny fe bostiodd ddyddiadur o’i brofiadau ar Instagram.

Dywedodd Esther Roberts, Rheolwr Amgueddfeydd a’r Celfyddydau Cyngor Gwynedd:

“Mae gwaith Michal yn gyfres o ffotograffau trawiadol sy’n archwilio ei daith ac yn ymateb i’r graffiti ar ei gartref.

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Michal ar gyfer sgwrs am ei waith, a hoffwn ddiolch i CELF am wneud hyn yn bosibl. Rydym yn ffodus iawn bod Storiel yn bartner i’r cynllun hwn sy’n cynnig ffyrdd newydd o ymgysylltu gyda chasgliad celf cenedlaethol Cymru.”

Mae CELF yn oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru sy’n dod â’i chasgliad i gymunedau ledled Cymru, gan dynnu ar straeon a diddordebau lleol.

Dywedodd Michal Iwanowski:

“Ym mis Ebrill 2018 cychwynnais ar daith gerdded 1800 km rhwng fy nau gartref – Cymru a Gwlad Pwyl – gyda phasbort Prydeinig yn y naill law a phasbort Gwlad Pwyl yn y llaw arall. Tynnais Linell syth ar y map, cefais afael ar bar o esgidiau cerdded da a cherddais allan o’m fflat, gan droi tua’r dwyrain.

“Fy mwriad oedd holi’r cwestiwn hwn i bobl ar hyd y ffordd: Ble mae ‘gartref’?”

Bydd arddangosfa Michal Iwanowski: Go Home Polish ymlaen yn Storiel hyd at 27 Mehefin 2026.

Am ragor o wybodaeth am yr arddangosfa hon, yn ogystal â arddangosfeydd a digwyddiadau eraill yn Storiel, ewch i’r wefan: www.storiel.cymru