Tîm Arweinyddiaeth Corfforaethol

 

Y Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol yw haen reolaethol uchaf y Cyngor. Mae’n cynnwys y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr Corfforaethol, ac mae’n gyfrifol am wireddu blaenoriaethau strategol y Cyngor yn ogystal â sicrhau llywodraethiant effeithiol.

 

PRIF WEITHREDWR

Dafydd Gibbard

Rhif ffôn: (01286) 679 002

E-bost: dafyddgibbard@gwynedd.llyw.cymru

 

Y Prif Weithredwr yw’r swyddog uchaf ac mae’n gyfrifol am yr holl staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y Cyngor. Mae rôl y Prif Weithredwr yn cynnwys:

  • Arweinyddiaeth: Gweithio gydag Aelodau Etholedig y Cyngor i sicrhau arweinyddiaeth a chyfeiriad cryf a gweladwy. Annog a galluogi rheolwyr i gymell ac ysbrydoli eu staff i gyflawni amcanion y cytunwyd arnynt gan y Cyngor.
  • Cyfeiriad strategol: Gwireddu’r blaenoriaethau strategol a osodwyd gan Aelodau Etholedig y Cyngor a rhanddeiliaid, trwy sicrhau fod staff yn eu deall a’u dilyn.
  • Cyngor polisi: Gweithredu fel y prif gynghorydd polisi i Aelodau Etholedig y Cyngor.
  • Partneriaethau: Arwain a datblygu partneriaethau cryf gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill, busnesau a grwpiau gwirfoddol ar draws Gwynedd a thu hwnt i wella ansawdd bywyd yn y Sir.
  • Llywodraethiant: Goruchwylio a chydlynu rheolaeth ariannol a pherfformiad, rheoli risg a rheoli newid o fewn y Cyngor.

 

Mae pedwar adran ym mhortffolio’r Prif Weithredwr. Yn y meysydd hyn, mae’r Prif Weithredwr yn arwain ar waith strategol yn ogystal â threfniadau herio perfformiad.

  • Economi a Chymuned.
  • Amgylchedd.
  • Tai ac Eiddo.
  • Addysg.

 

Mae'r Cyfarwyddwyr Corfforaethol yn dirprwyo ar gyfer a chefnogi'r Prif Weithredwr. Maent yn gyfrifol am yr adrannau a nodir isod. Yma, mae’r Cyfarwyddwyr Corfforaethol yn arwain ar waith strategol yn ogystal â threfniadau herio perfformiad. 

 

CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL (GWASANAETHAU CYMDEITHASOL)

 

Dylan Owen

Rhif ffôn: (01286) 679 923

E-bost: DylanOwen@gwynedd.llyw.cymru

Mae'r adrannau isod ym mhortffolio'r Cyfarwyddwr:​​​​​​​

  • Plant a Chefnogi Teuluoedd.
  • Oedolion, Iechyd a Llesiant

 

CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL

​​​​​​​Geraint Owen

Rhif ffôn: (01286) 679 387

E-bost: GeraintOwen@gwynedd.llyw.cymru

Mae'r adrannau isod ym mhortffolio'r Cyfarwyddwr:​​​​​​​

  • Cefnogaeth Gorfforaethol.
  • Cyllid a TG.
  • Gwasanaethau Cyfreithiol.
  • Priffyrdd, Peirianneg ac YGC.