Cerbydau wedi eu gadael

Gall gerbyd wedi ei adael ei ddisgrifio fel cerbyd sydd wedi ei adael gan y perchennog heb unrhyw fwriad o ddychwelyd.

Dylech adrodd i'r Heddlu am unrhyw gerbyd sydd:
- Yn groes i orchmynion rheoleiddio traffig lleol
- Yn achosi rhwystr ar briffordd gyhoeddus - Wedi ei losgi
- Wedi ei adael mewn man peryglus

Arwyddion posib o gerbyd sydd wedi'i adael

  • Y car heb symud ers dros 6 wythnos
  • Ffenestri neu ddrychau wedi malu
  • Tystiolaeth o lwydni
  • Sbwriel neu dyfiant o dan y cerbyd
  • Dim treth neu MOT
  • Teiars fflat

Os ydych yn bryderus fod cerbyd wedi’i adael, dylech wirio os yw wedi ei drethu a bod ganddo MOT dilys yn y lle cynta:

Os oes gan y cerbyd MOT dilys a'i fod wedi’i drethu, ni fydd yn cael ei ystyried fel cerbyd wedi’i adael.

Os ydych eisiau adrodd am gerbyd sydd wedi ei gofrestru fel ei fod oddi ar y ffordd (HOS), dylech wneud hyn gyda’r DVLA (yn agor mewn tab newydd) (yn agor mewn tab newydd)

Ni fyddwn yn ymyrryd mewn anghydfod preswyl am gerbydau tu allan i'ch eiddo.


Adrodd am gerbyd sydd wedi'i adael

Bydd angen i chi ddarparu y wybodaeth ganlynol pan yn adrodd am gerbyd wedi ei adael:

  • Lleoliad
  • Rhif cofrestru (Number plate)
  • Gwneuthurwr, model a lliw
  • Cyflwr y cerbyd
  • Cyfnod mae’r cerbyd wedi bod yn y safle

Gyrrwch yr wybodaeth berthnasol i:

Am resymau diogelu data, ni fyddwn yn rhannu manylion y sawl sydd yn berchen ar y cerbyd na'r sawl sydd yn gwneud yr adroddiad.


Beth fydd yn digwydd nesaf?

  • Bydd aelod o’r tîm yn ymweld ac arolygu’r cerbyd os ydi’r adroddiad cychwynnol yn awgrymu fod angen cymryd camau pellach.
  • Os ydym yn credu fod y cerbyd wedi’i adael, byddwn yn cysylltu gyda’r perchennog i ofyn iddynt wneud trefniadau i’w symud.
  • Yn dilyn hyn, os na fydd camau wedi’u cymryd gan berchennog y cerbyd, mae gan y Cyngor bwerau i’w waredu.

Gwaredu Cerbyd

Gallwn waredu cerbyd wedi’i adael yn syth os yw’r:

  • Cerbyd mewn cyflwr lle does dim opsiwn ond ei ddinistrio
  • Cerbyd heb rif cofrestru

Mewn unrhyw achos arall, bydd rhaid i ni geisio canfod perchennog y cerbyd.

Os byddwn yn canfod y perchennog, bydd yn cael rhybudd ysgrifenedig ac o leiaf 7 diwrnod i symud y cerbyd.

Os na allwn ddod o hyd i'r perchennog, neu os na fydd yn cydymffurfio â rhybudd i gasglu'r cerbyd, byddwn yn ei waredu.


Cysylltu â ni

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy: