Os ydych yn credu bod busnes yn gweithredu’n annheg, yn gwerthu cynnyrch anniogel, neu’n camarwain defnyddwyr, rhowch wybod i ni.

Rydym yn gweithio i ddiogelu’r cyhoedd drwy ymchwilio i gwynion am nwyddau a gwasanaethau a sicrhau bod busnesau’n cydymffurfio â’r gyfraith.

Beth allwch chi adrodd amdano

Gallwch roi gwybod i Safonau Masnach am amrywiaeth o faterion, gan gynnwys:

  • Nwyddau diffygiol neu beryglus – Cynnyrch sy’n ddiffygiol, yn anniogel neu sydd ddim yn bodloni safonau cyfreithiol.
  • Hysbysebu camarweiniol – Honniadau ffug neu gamarweiniol am gynnyrch neu wasanaeth.
  • Nwyddau ffug – Cynnyrch ffug sy’n cael eu gwerthu fel eitemau dilys.
  • Arferion masnachu annheg – Megis taliadau cudd, gwerthu dan bwysau, neu arferion busnes anonest.
  • Adalw cynnyrch – Pryderon am eitemau sydd wedi’u hadalw gan wneuthurwr.
  • Sgamiau neu dwyll – Gweithgarwch amheus neu gynlluniau twyllodrus sy’n targedu defnyddwyr.

Adrodd problem

1. Gwiriwch os ydym yn delio â'r mater

Cyn adrodd, gwnewch yn siwr bod eich cwyn yn ymwneud â mater Safonau Masnach. Gall materion fel dyled, credyd defnyddwyr neu gontractau gael eu trin gan wasanaethau eraill fel Cyngor ar Bopeth (yn agor mewn tab newydd).

2. Casglwch wybodaeth

Er mwyn ein helpu i ymchwilio, rhowch gymaint o fanylion â phosibl am y busnes a’r broblem. Gall hyn gynnwys:

  • Enw, cyfeiriad a manylion cyswllt y busnes
  • Disgrifiad o’r broblem neu’r digwyddiad
  • Dyddiadau prynu neu ryngweithio â’r busnes
  • Unrhyw dderbynebau, anfonebau neu gyfathrebiadau perthnasol gyda’r busnes

3. Cysylltu â ni

Gallwch gyflwyno’ch adroddiad i’r Safonau Masnach:

Am gyngor ar eich mater neu i uwchgyfeirio cwyn, cysylltwch â Cyngor ar Bopeth (yn agor mewn tab newydd).


Diogelu eich hun

Er mwyn diogelu eich hun rhag masnachu annheg a sgamiau, dylech bob amser:

  • Wirio adolygiadau ac adborth cyn prynu
  • Bod yn ofalus o fargeinion sy’n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir
  • Osgoi rhoi gwybodaeth bersonol neu ariannol i ffynonellau anhysbys neu amheus

Os oes angen rhagor o gyngor arnoch, cysylltwch â Cyngor ar Bopeth (yn agor mewn tab newydd) am gymorth rhad ac am ddim, annibynnol. Gallant eich arwain drwy eich hawliau defnyddwyr a chynghori ar y camau nesaf i’w cymryd.