Nid yw Cyngor Gwynedd yn gweithredu gwasanaeth i ddeiliaid tai preifat i glirio carthffosydd a draeniau preifat.
Efallai y byddwch yn dymuno defnyddio gwasanaethau contractwyr preifat. Gallwch chwilio ar-lein (er enghraifft drwy Google neu Bing) am gwmnïau lleol gan ddefnyddio termau fel “glanhau draeniau” neu “drain and pipe cleaning”, neu ddefnyddio cyfeiriaduron masnach fel Yellow Pages.
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai deiliaid tai sy’n gyfrifol am drefnu a thalu cost y gwasanaethau hyn.