Os ydych yn byw yng Ngwynedd ac yn cael eich effeithio gan un o’r problemau sŵn canlynol, cysylltwch â ni:
- Cymdogion swnllyd (e.e. cerddoriaeth uchel, larymau, gwaith tŷ/adeiladu (DIY) yn ystod amser afresymol o’r dydd)
- Sŵn o eiddo masnachol (e.e. adloniant, systemau awyru, larymau)
- Sŵn o eiddo diwydiannol (e.e. ffactrïoedd, gwaith adeiladu/dymchwel, larymau)
- Larymau ceir/radio car uchel (dim ond os yw’r cerbyd wedi ei barcio)
- Cŵn yn cyfarth – cwblhewch y ffurflen adrodd am gŵn yn cyfarth
Dalier sylw: Nid oes gan y Cyngor bwerau i ddelio gyda sŵn domestig bywyd pob dydd fel – fflysio toiledau, sŵn cerdded, drysau’n agor a chau; sŵn plant yn crio; neu sŵn pobl ar y stryd.
Adrodd problem
Cyflwyno cwyn am sŵn (yn agor mewn tab newydd)- Ffôn: 01766 771000
Noder: Ni allwn ystyried cymryd camau gorfodi oni bai eich bod yn darparu eich enw.
Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi wneud cwyn?
Fel arfer byddwn yn anfon taflen atoch er mwyn i chi allu cadw cofnod manwl o’r sŵn, gan gynnwys y dyddiad a’r amser y mae’n digwydd. Bydd hyn yn ein helpu i ymchwilio i’r gwyn a phenderfynu ar y camau nesaf i’w cymryd.
Byddwn hefyd yn cysylltu â’r sawl yr ydych yn cwyno amdanynt i roi gwybod fod cwyn wedi ei gwneud yn eu herbyn.
Os bydd y broblem yn parhau, bydd Archwilydd yn asesu ymhellach, ac os bydd angen, rhybudd statudol yn cael ei roi er mwyn stopio, neu leihau’r sŵn. Os bydd y rhybudd hwn yn cael ei anwybyddu, gallwn erlyn drwy’r llysoedd.