Triniaethau tyllu croen

Cynllun Trwyddedu Gweithdrefnau Arbennig

Daeth y cynllun trwyddedu gweithdrefnau arbennig newydd i rym ar 29 o Dachwedd 2024, dan Rhan 4 o Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017.

Nawr, mae yn angenrheidiol i unrhyw weithredwr sy'n perfformio un o'r gweithdrefnau arbennig a ddiffiniwyd yn y gweithdrefnau ar rywun arall yng Nghymru fod wedi'u trwyddedu (mae'r drwydded hon yn cael ei galw'n 'Drwydded Gweithdrefnau Arbennig').

Yn ogystal, mae'n rhaid i'r lleoliad (eiddo neu cherbyd) y mae gweithredwyr gweithdrefnau arbennig yn gweithredu ohonynt gael eu cymeradwyo (a elwir yn 'Tystysgrif Eiddo Cymeradwy').

Mae'n drosedd i ymarferydd gynnal gweithdrefn arbennig heb drwydded neu i berfformio unrhyw weithdrefnau o leoliad sydd heb ei gymeradwyo. Mae hefyd yn drosedd peidio â chydymffurfio â'r gofynion penodol/amodau gorfodol a manylwyd yn y Rheoliadau ar gyfer ymarferwyr a lleoliadau.

Gwneud Cais am drwydded Ymarferydd (gweithdrefnau arbennig)

Rhaid cyflwyno ceisiadau am drwydded gweithdref arbennig Gyngor Gwynedd gan ddefnyddio'r ffurflen gais:

Ffurflen gais am drwydded Ymarferydd (yn agor mewn tab newydd)

Mae'n rhaid i'r holl geiswyr fod yn 18 oed neu'n hyn.

Bydd angen cyflwyno’r ddogfennau cefnogol canlynol gyda'r cais.

Cyflwyno cais am Dystysgrif Gymeradwyo Mangreoedd a Cherbydau

Rhaid i'r rhai sy'n dymuno cael tystysgrif cymeradwyo ar gyfer eiddo/cerbyd gyflwyno cais i Gyngor Gwynedd gan ddefnyddio'r ffurflen ganlynol.

Ffurflen gais Tystysgrif Eiddo Cymeradwy (yn agor mewn tab newydd)

Mae'n rhaid i'r holl geiswyr fod yn 18 oed neu'n hyn.

Bydd angen cyflwyno’r ddogfennau cefnogol canlynol gyda'r cais.

Mwy o gymorth

Cysylltwch â ni

Ar gyfer unrhyw ymholiadau ynghylch y cynllun trwyddedu gweithdrefnau arbennig, os gwelwch yn dda anfonwch e-bost at trwyddedu@gwynedd.llyw.cymru