Os ydych yn caniatáu i’r cyhoedd ddefnyddio eich tir chi fel safle gwersylla am fwy na 42 diwrnod yn olynol – neu 60 diwrnod mewn blwyddyn – mae’n rhaid i chi gael trwydded gan eich awdurdod lleol.

Nodwch:

  • Gellir rhoi amodau ar y drwydded.
  • Eithrir mudiadau sydd â thystysgrif yn eu heithrio o’r rheolau safle gwersylla.

Proses gwerthuso'r cais

Pan gyflwynir cais tybir ei fod yn cael ei wneud yn ddiamod, oni bai bod yr awdurdod lleol yn hysbysu bod y cais wedi’i wrthod neu bod amodau ynghlwm â’r drwydded.

Gwneud cais

I wneud cais am drwydded safle gwersylla yng Ngwynedd, neu i wneud cais i newid trwydded, ffoniwch 01766 771000.

Deddfau perthnasol

Deddf Iechyd y Cyhoedd 1936 (yn agor mewn tab newydd)

A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?

Na fydd. Er budd y cyhoedd mae'n ofynnol i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, cysylltwch â hwy.
Gweithredu pan fydd cais yn methu
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.  Os gwrthodir rhoi trwydded i ymgeisydd gall gyflwyno apêl i’r Llys Ynadon lleol.

Camau gan ddeiliad trwydded

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf. Gall deiliad trwydded gyflwyno apêl i’r Llys Ynadon lleol yn erbyn amod ar eu trwydded.

Cwyn gan ddefnyddwyr

Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth (yn agor mewn tab newydd) roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (yn agor mewn tab newydd) (UK European Consumer Centre).

Cymdeithasau masnach