Os ydych am ddangos, arddangos neu berfformio gweithred hypnoteiddio yn gyhoeddus, rhaid i’r awdurdod lleol awdurdodi hynny yng Nghymru a Lloegr.

Nodwch:

  • Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth yr awdurdodi.
  • Ni fydd ffi i'w thalu.

Gwneud cais

Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, ffoniwch 01766 771000.

Deddfau perthnasol

Deddf Hypnotiaeth 1952 (yn agor mewn tab newydd)

A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?

Na fydd. Er budd y cyhoedd mae'n ofynnol i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, cysylltwch â hwy.

Gweithredu pan fydd cais yn methu

Cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Camau gan ddeiliad trwydded

Cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Cwyn gan ddefnyddwyr

Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth (yn agor mewn tab newydd) roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (yn agor mewn tab newydd) (UK European Consumer Centre).

Cymdeithasau masnach

Agents Association (yn agor mewn tab newydd)
Equity (yn agor mewn tab newydd)
Society for All Artists (SAA) (yn agor mewn tab newydd)