Gwneud cais
Dim ond cwmnïau llogi sgipiau sydd yn gallu gwneud cais am drwydded. Nid oes modd i unigolion wneud cais.
Os ydych angen sgip, cysylltwch â chwmni llogi sgipiau o’ch dewis. Fe fyddan nhw yn gwneud y cais am drwydded ar eich rhan.
Dylai cwmnïau llogi sgipiau gwblhau’r ffurflen gais isod.
Bydd angen cwblhau ffurflen gais 5 diwrnod gwaith cyn y dyddiad rydych eisiau i'r drwydded gychwyn.
Ffioedd
£74 yw cost pob cais am drwydded sgip.
Os bydd y cais yn cael ei ganiatáu bydd y drwydded yn ddilys am 1 mis.
Er mwyn cael estyniad i'r drwydded bydd yn rhaid adnewyddu cyn i'r drwydded ddod i ben.
Ffioedd adnewyddu
£74 y mis yw cost adnewyddu trwydded.
Cysylltwch â ni i adnewyddu eich cais
- 01766 771 000.
Noder: Ni fydd ad-daliad os fydd cais yn aflwyddiannus.