- Ffioedd
- Gwaharddiad neu Cyfyngiad dros dro ar ffyrdd (h.y. Cau Ffordd) am fwy na 3 diwrnod: £2,669
- Gwaharddiad neu Cyfyngiad dros dro ar ffyrdd (h.y. Cau Ffordd) am 3 diwrnod neu llai: £1,124
Digwyddiadau arbennig
Gwaharddiad neu Cyfyngiad dros dro ar ffyrdd i Digwyddiadau Arbennig:
- Gorchymyn: £2,669,
- Rhybudd: £1,124
Nodwch y bydd yr isod yn berthnasol o Ebrill 2024:
- Digwyddiadau Cymunedol (am ddim i aelodau’r cyhoedd mynychu): Dim Ffi
- Digwyddiadau a drefnwyd gan Elusennau Cofrestredig: Dim Ffi
- Digwyddiadau ble mae ffi i bobl fynychu neu gymryd rhan: £1,124
Anawdurdodedig Gwaharddiad neu Cyfyngiad dros dro ar ffyrdd – ffi y cais plws £1,198 pob diwrnod dilynol
- Rhaid i’r Ymgeisydd:
(a) Rhoi o leiaf 8 wythnos o rybudd os yw’r gwaharddiad, neu cyfyngiad dros dro am fwy na 3 diwrnod.
(b) Rhoi o leiaf 20 diwrnod gwaith o rybudd os yw’r gwaharddiad cyfyngiad dros dro am 3 diwrnod neu llai.
(c) Cytuno i dalu’r costau penodol uchod.
(d) Darparu, codi, a chynnal arwyddion traffig a dargyfeiriad sydd yn ofynnol gan gynnwys byrddau rhagrybudd.
(e) Ymgymryd i hysbysu'r holl bartïon gwyddys ble mae’r cyfyngiad yn cael effaith uniongyrchol arnynt drwy hysbysu drwy lythyr.
Bydd methu â chydymffurfio â'r amodau uchod yn golygu nad yw'r cau'n awdurdodedig, a gallai eich gwneud yn agored i'r ffi gwahardd neu gyfyngu dros dro heb awdurdod fel y nodir uchod.
- Gwaharddiad neu Cyfyngiad mewn Argyfwng (h.y. Cau Ffordd)
Ni fydd y rhain yn ganiataol ar unrhyw fath o waith neu ddigwyddiadau sydd wedi'u cynllunio ymlaen llaw. Byddant dim ond yn ganiataol os oes risg o berygl i'r cyhoedd neu ddifrod difrifol i'r briffordd.
- Mae darpariaeth, gweithrediad, a chynnal a chadw pob arwydd, golau ac eitem gwarchod y gweithiau yn gyfrifoldeb ar yr ymgeisydd a bydd yn unol â gofynion Deddf Gwaith Stryd a Ffyrdd Newydd 1991 a chod ymarfer “Diogelwch a Gwaith Stryd a Gwaith Ffordd” ar y cyd â'r Llawlyfr Arwyddion Traffig, Pennod 8.
- Nid yw cwblhau a chyflwyno’r cais, mewn unrhyw ffordd, yn gwarantu y bydd Cyngor Gwynedd yn symud ymlaen gyda'r cais na fo’r cyfyngiad dros dro yn cael ei ganiatáu o dan y pwerau perthnasol.
- Mae’n bosib y bydd angen i gwmnïau cyfleustodau dalu iawndal i'r gwasanaeth trafnidiaeth, os credir y bydd costau ychwanegol yn cael eu cynnig o ganlyniad uniongyrchol i gau’r ffordd.