Mae’n rhaid cael trwydded i godi addurniadau, baneri neu fflagiau uwchben y briffordd gyhoeddus.
Gwneud cais
Cwmnïau neu unigolion sydd â yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gwerth £10 miliwn sydd yn gallu gwneud cais.
Rhaid lawrlwytho ffurflen gais a'i dychwelyd cyfeiriad isod (gyda ffi), i’r Uned Gofal Stryd er mwyn gweld os yw’r safle yn addas.
Ffurflen Gais (yn agor mewn tab newydd)
Cyfeiriad: Uned Gwaith Stryd, Adran Amgylchedd, Cyngor Gwynedd, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01766 771 000
Bydd angen caniatáu 5 diwrnod gwaith ar gyfer rhoi ystyriaeth i’ch cais. Bydd cynrychiolydd o’r Uned Gofal Stryd yn cysylltu trwy e-bost neu lythyr o fewn 5 diwrnod gwaith.
Cost
£169 y mis yw cost cais i gael rhoi arwyddion, baneri neu fflagiau uwchben priffordd gyhoeddus.
Mae angen i chi amgáu’r ffi berthnasol gyda’r cais hwn. Bydd rhaid talu’r ffi cyn i’r uned roi ystyriaeth i’ch cais.
Noder: Ni fydd ad-daliad o’r ffi yn cael ei wneud petai’r cais yn aflwyddiannus.