Er mwyn casglu arian neu werthu eitemau er budd elusen yn Lloegr a Chymru, mae gofyn i chi gael trwydded casglu ar y stryd gan eich cyngor lleol.
Proses gwerthuso’r cais
Dylai darpar ymgeiswyr gysylltu â’r Cyngor ynghylch pryd a lle yng Ngwynedd maent yn bwriadu casglu ar y stryd. Os yw’r dyddiad penodol ar gael, caiff y dyddiad ei gadw dros dro i’r sawl sy’n gwneud cais amdano, a bydd angen cadarnhad ysgrifenedig ganddynt. Gellir ymgeisio hyd at flwyddyn ymlaen llaw, ond ddim llai na mis cyn y dyddiad. Ond mewn achosion arbennig, fel trychineb, gellir rhoi rhybudd o lai na mis.
Gwneud cais
Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, ffoniwch 01766 771000.
Mwy o wybodaeth
Deddfau perthnasol
Deddf Elusennau 1992 (yn agor mewn tab newydd)
A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?
Na fydd. Er budd y cyhoedd mae’n ofynnol i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, cysylltwch â hwy.
Gweithredu pan fydd cais yn methu
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.
Camau gan ddeiliad trwydded
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.
Cwyn gan ddefnyddwyr
Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth (yn agor mewn tab newydd) roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (yn agor mewn tab newydd) (UK European Consumer Centre).