I weithredu pont bwyso cyhoeddus, mae arnoch angen tystysgrif gan unrhyw Brif Arolygydd Pwysau a Mesurau fod gennych wybodaeth ddigonol i gyflawni eich dyletswyddau’n gywir.

Gwneud cais

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01766 771000.

Deddfau perthnasol

Deddf Pwyso a Mesur 1985 [adran 18 – 20 yn Rhan 3] (yn agor mewn tab newydd) (cyswllt allanol – Saesneg yn unig)

A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?

Na fydd. Er budd y cyhoedd mae’n ofynnol i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, cysylltwch â hwy.

Gweithredu pan fydd cais yn methu

Cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Gallwch apelio at y Swyddfa Fesur Genedlaethol os bydd eich cais yn cael ei wrthod.

Camau gan ddeiliad trwydded

Cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Cwyn gan ddefnyddwyr

Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth (yn agor mewn tab newydd) roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (yn agor mewn tab newydd) (UK European Consumer Centre).

Cymdeithasau masnach

Y Swyddfa Fesur a Rheoleiddio Genedlaethol (yn agor mewn tab newydd)