Mae trwydded bersonol yn caniatáu’r deilydd i werthu alcohol ar ran unrhyw fusnes sydd â thrwydded eiddo neu dystysgrif eiddo clwb. Pwrpas y drwydded yw sicrhau bod unrhyw un sy’n rhedeg neu reoli busnes sy’n gwerthu neu gyflenwi alcohol yn gwneud hynny mewn modd broffesiynol.

Gall deilydd trwydded bersonol weithredu fel goruchwyliwr eiddo dynodedig (DPS) ar gyfer unrhyw fusnes sy’n gwerthu neu gyflenwi alcohol.

Meini prawf

Rhaid ymgeiswyr trwydded personol:

Sut mae gwneud cais?

Mae'n rhaid anfon y cais at yr awdurdod trwyddedu ble mae’r ymgeisydd yn byw (nid at yr awdurdod ble mae’r eiddo wedi’i leoli).

Bydd rhaid anfon y canlynol atom:

Dylid dychwelyd y ffurflenni i un o'r cyfeiriadau canlynol:

  • Uned Trwyddedu, Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH
  • Uned Trwyddedu, Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd, Swyddfa Ardal Dwyfor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5AA
  • Uned Trwyddedu, Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd, Swyddfa Ardal Meirionnydd, Cae Penarlâg, Dolgellau, Gwynedd, LL40 2YB

Pan fydd gan ymgeisydd gollfarn heb ddarfod ar gyfer trosedd berthnasol neu tramor, bydd yr awdurdod trwyddedu yn rhoi rhybudd i brif swyddog yr Heddlu ar gyfer yr ardal. Os bydd yr heddlu’n gwrthwynebu’r cais ar sail atal trosedd, yna bydd gan yr ymgeisydd hawl i wrandawiad gerbron yr awdurdod trwyddedu. Os nad yw’r heddlu’n gwrthwynebu a bod y cais yn bodloni gofynion y Ddeddf 2003, rhaid i’r awdurdod trwyddedu ganiatáu’r drwydded.

Hyd y drwydded

Bellach nid yw adnewyddu trwyddedau yn angenrheidiol.

Mae Trwydded Bersonol yn parhau i fod yn ddilys oni bai ei bod yn cael ei ildio, ei atal, ei diddymu neu ddatgan fforffedu gan y llysoedd.

Cafodd y gofyniad i adnewyddu trwydded bersonol ei diddymu oddi ar y Ddeddf Trwyddedu 2003 yn dilyn y Ddeddf Dadreoleiddio 2015. Er bod y trwyddedau a gyhoeddir cyn y Ddeddf 2015 yn arddangos dyddiad dibennu, bydd y trwyddedau yn parhau i fod yn ddilys ac ni fydd y dyddiadau yn cael unrhyw effaith.

Ffioedd

Cofrestr gyhoeddus

Gweld cofrestr gyhoeddus o drwyddedau personol Gwynedd (yn agor mewn tab newydd)

Deddfwriaeth berthnasol

Deddf Trwyddedu 2003 (yn agor mewn tab newydd)