Chwiliadau pridiannau tir lleol

Nid ydym yn darparu gwasanaeth chwilio pridiannau tir lleol. Mae’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol bellach wedi mudo i gofrestr genedlaethol Cofrestrfa Tir EF. Mynd i’r gwasanaeth digidol newydd (GOV.UK) (yn agor mewn tab newydd)
Rydym yn parhau i dderbyn ceisiadau Con29.

Gallwn ddarparu gwybodaeth chwiliadau ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno prynu eiddo neu dir o fewn Ardal yr Awdurdod Lleol.

Byddwch yn ymwybodol fod ein amser prosesu presennol ar gyfartaledd yn 30 diwrnod gwaith. Os oes gennych ymholiadau pellach, e-bostiwch pridiannautir@gwynedd.llyw.cymru

Mae’r chwiliad yn gyfres o gwestiynau safonol wedi eu dylunio i roi cymaint o wybodaeth â phosib i’r darpar brynwr am yr eiddo neu dir.
Fel arfer, twrnai neu drosglwyddwr trwyddedig sydd yn gofyn am chwiliad.