Dweud eich dweud Os ydych yn gwmni neu'n fenter leol rhowch wybod i ni beth yw'r rhwystrau i ennill gwaith gyda Chyngor Gwynedd. Gallwch gwblhau'r holiadur ar-lein (yn agor mewn tab newydd)
Tendro yw'r broses y mae'r Cyngor yn ei defnyddio i wahodd cyflenwyr i ddarparu nwydd neu wasanaeth i’r Cyngor.
Bydd Cyngor Gwynedd yn tendro am unrhyw nwydd, gwasanaeth neu waith sydd â gwerth dros £50,000. Nod y broses dendro yw creu cystadleuaeth effeithiol, teg a thryloyw, a sicrhau gwerth am arian i'r Cyngor a’r trethdalwr.
Oes. Wrth gofrestru gyda Gwerthwch i Gymru byddwch yn creu proffil i’ch cwmni. Drwy gyflwyno gwybodaeth fanwl am eich cwmni o fewn y proffil bydd yn helpu Gwerthwch i Gymru i bennu pa dendrau all fod o ddiddordeb i'ch cwmni chi. Os ydych wedi cynnwys eich manylion llawn a'r codau CPV (Common Procurement Vocabulary Codes) cywir, bydd y system yn anfon e-bost i chi fydd tendr perthnasol yn cael ei hysbysebu.
Na, does dim cost i gofrestru ac mae'r system yn hawdd i'w ddefnyddio.
Mae'r wefan Gwerthwch i Gymru(yn agor mewn tab newydd) (yn agor mewn tab newydd) yn cael ei ddefnyddio gan holl gyrff sector cyhoeddus Cymru. Golyga hyn fod modd i chi hyrwyddo eich cwmni, gweld hysbysebion sector cyhoeddus a chysylltu â holl sefydliadau cofrestredig y sector gyhoeddus yng Nghymru.
gael mynediad at y newyddion diweddaraf a gwybodaeth am ddigwyddiadau yng Nghymru sy'n ymwneud â chaffael a thendro
cymryd rhan mewn fforymau gyda chyflenwyr a phrynwyr i drafod ymarfer gorau
edrych drwy'r gronfa ddata o gyflenwyr am gyfleoedd i gyflwyno ceisiadau ar y cyd
lawrlwytho dogfennau defnyddiol fel deddfwriaeth yr DU, canllawiau tendro, polisïau prynwyr ac erthygl ar sut i lwyddo.
Mae'r Cyngor yn gwyro oddi wrth yr arfer o ddefnyddio 'Rhestrau Cymeradwy' ac yn ffafrio contractau fframwaith. Rydym yn argymell bod cyflenwyr yn cofrestru ar wefan Gwerthwch i Gymru er mwyn gweld ein hysbysebion am gontractau a cheisiadau am ddyfynbrisiau.
Mae'n rhaid i Gyngor Gwynedd ddilyn rheolau cenedlaethol ar gyfer contractau sydd â gwerth dros drothwy ariannol arbennig. Mae rhagor o wybodaeth a manylion am y trothwyon ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Bydd amodau a thelerau’r gytundeb yn rhan o’r pecyn caffael, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyfreithiol y Cyngor am wybodaeth bellach.
Bydd manylion cyswllt ar gyfer derbyn cymorth wedi ei nodi ar y ddogfen dendr ei hun. Gall Busnes Cymru hefyd gynnig cymorth ar sut i gwblhau dogfennau tendr, a chynnal sesiynau gyda chyflenwyr lleol. Cysylltwch â Busnes Cymru am fanylion pellach ar 03000 603000.
Yn anffodus, fel rheol nid ydym yn derbyn unrhyw gais sy’n dod i law ar ôl y dyddiad/amser cau.
Oes. Bydd y Cyngor yn ceisio rhoi adborth ar unrhyw gais aflwyddiannus er mwyn i gyflenwyr gallu gwella ceisiadau i’r dyfodol.
I dderbyn adborth, cysylltwch gyda’r pwynt cyswllt sydd wedi ei nodi ar y ddogfen dendr neu gyda’r Gwasanaeth Caffael drwy ddefnyddio ’r manylion cyswllt isod.
Cysylltu â ni
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i ateb i'ch cwestiwn ar y dudalen hon, cysylltwch â ni ar: