Digwyddiadau ar y gweill
Ffeiriau Swyddi Gwaith Gwynedd
Oes gennych swyddi i lenwi? Mae Gwaith Gwynedd yn cynnal cyfres o ffeiriau swyddi yng Ngwynedd sydd yn gyfle gwych i fusnesau lleol cyfarfod pobol sydd yn edrych am swyddi. Os ydych eisio’r cyfle i gael stondin am ddim er mwyn arddangos eich swyddi agored, cysylltwch â Gwaith Gwynedd drwy e-bostio: rebeccawilliams@gwynedd.llyw.cymru
- 27/05/2026, 10:00-12:30 – Bangor, Bwyd Da
Yn ystod ffair swyddi Porthmadog, bydd yna Gornel Cymorth Busnes, ble fydd Busnes@ Gwynedd a nifer o sefydliadau Cymorth Busnes ar gael i ddarparu cymorth a gwybodaeth i fusnesau.
Does ddim angen tocyn, dewch draw ar y diwrnod am sgwrs!
Mehefin 2026: Digwyddiadau Cymorth Busnes
Ym mis Mehefin, byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau galw heibio, gan gynnig cyfle i fusnesau lleol gael mynediad at gyngor gan ystod eang o sefydliadau cymorth mewn un lle.
Bydd y sesiynau’n rhoi cyfle i gysylltu â chynrychiolwyr sy’n cwmpasu meysydd fel datblygu busnes, cyllid, recriwtio, hyfforddiant, cynaliadwyedd a rheoleiddio, yn ogystal â chael gwybod mwy am y cymorth a’r cyfleoedd sydd ar gael yn lleol.
| Pryd? | Lle? | Sut i archebu lle? |
|---|---|---|
| 04/06/202615:00-18:00 | Abermaw | Digwyddiad Abermaw (yn agor mewn tab newydd) |
| 09/06/202616:00-18:00 | Pwllheli | Digwyddiad Pwllheli (yn agor mewn tab newydd) |
| 12/06/202611:00-15:00 | Bangor | Digwyddiad Bangor (yn agor mewn tab newydd) |