Mae'r adnoddau a'r wybodaeth a geir yma wedi'u datblygu mewn ymateb i adborth gan fusnesau lleol drwy Arolwg Busnes Blynyddol Cyngor Gwynedd. Ymysg y cynnwys mae adnoddau a ddatblygwyd gan arbenigwyr, ynghyd â gwybodaeth am sefydliadau sy'n darparu cymorth, cyngor ac arweiniad i fusnesau.
Pecynnau cymorth
Cyfryngau cymdeithasol
Canllaw ymarferol i helpu busnesau ddefnyddio'r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda syniadau cynnwys, dyddiadau allweddol ac adnoddau defnyddiol.
- Y Gymraeg ar y Cyfryngau Cymdeithasol (yn agor mewn tab newydd)pdf file[4.18MB]
Rheolaeth Ariannol
Adnodd defnyddiol i gefnogi busnesau sy'n tyfu i gryfhau eu rheolaeth ariannol a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Sefydliadau Cymorth Busnes
P'un a ydych newydd ddechrau neu'n edrych i dyfu, mae Gwynedd yn cynnig ystod eang o gymorth i fusnesau o bob maint a sector. O gyllid a hyfforddiant i rwydweithio ac arloesi, gall y sefydliadau a restrir isod eich helpu i gymryd y cam nesaf yn hyderus.
- Gwaith Gwynedd:Yn cynnig cymorth sy'n canolbwyntio ar gyflogwyr gan gynnwys cymorth recriwtio, ffeiriau swyddi, dadansoddi bwlch hyfforddiant, a helpu i ddod yn Gyflogwr Hyderus i Anabledd.
- Syniadau Mawr Cymru (yn agor mewn tab newydd): Yn cefnogi pobl ifanc (25 oed ac iau) yng Nghymru i archwilio entrepreneuriaeth drwy weithdai, mentora a grantiau cychwynnol.
- Busnes Cymru (yn agor mewn tab newydd): Menter Llywodraeth Cymru sy'n cynnig cefnogaeth gynhwysfawr ar gyfer cychwyn, rhedeg a thyfu busnes. Mae'r gwasanaethau yn cynnwys cynllunio busnes, cyngor ariannu, marchnata, a chymorth arbenigol.
- Cwmpas (yn agor mewn tab newydd): Gynt yn Ganolfan Cydweithredol Cymru, mae Cwmpas yn cefnogi mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol a busnesau cymunedol gyda chyngor arbenigol a gwasanaethau datblygu.
- Banc Datblygu Cymru (yn agor mewn tab newydd): Yn darparu benthyciadau a chyllid ecwiti o £1,000 i £10 miliwn i fusnesau yng Nghymru, gan gynnwys busnesau newydd, busnesau ehangu, a datblygwyr eiddo.
- Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) Cymru: (yn agor mewn tab newydd) Sefydliad sy'n seiliedig ar aelodaeth sy'n cynnig eiriolaeth, rhwydweithio a chefnogaeth ymarferol i fusnesau bach ledled Cymru.
- Hwb Menter (yn agor mewn tab newydd): Menter Môn sy'n cynnig mannau cydweithio, pecynnau cymorth i ddechrau, gweithdai, digwyddiadau a mynediad at offer prototeipio yn M-SParc a Hwb Arloesi, Porthmadog.
- M-SParc (yn agor mewn tab newydd): Yn cynnig cymorth busnes pwrpasol, rhwydweithio, mynediad at gyllid a gwasanaethau arloesi ar gyfer busnesau gwyddoniaeth, technoleg a charbon isel yng Ngogledd Cymru.
- Mentera (yn agor mewn tab newydd): Mae Mentera yn cefnogi busnesau o lawr gwlad i fyd-eang, gan eu helpu i gyrraedd safonau o'r radd flaenaf. Mae eu cefnogaeth wedi'i deilwra yn cynnwys mentora, rhwydweithio, mynediad at gyllid, a rhaglenni sector-benodol - yn enwedig mewn bwyd, ffermio ac arloesi.
- RCS Cymru (yn agor mewn tab newydd): Mae RCS yn darparu cymorth, hyfforddiant a therapïau wedi'u personoli i helpu pobl a busnesau ar draws Gogledd, Gorllewin a De-orllewin Cymru i wella lles yn y gwaith. Mae eu gwasanaethau yn cynnwys cymorth un-i-un, hyfforddiant lles, ac ymgynghoriaeth i fusnesau bach a chanolig i leihau absenoldeb salwch a rhoi hwb i gynhyrchiant.
Cyllideb 2026: Beth sydd angen i fusnesau Gwynedd ei wybod
Yn y gyllideb ar gyfer 2026, ychydig iawn o newidiadau arwyddocaol sydd yno i'r rhan o fwyaf o fusnesau maint bach a chanolig. Mae llawer o gyfraddau a throthwyon a lwfansau trethi allweddol wedi aros yr un fath, sy'n rhoi rhywfaint o sicrwydd i fusnesau.
Dylai perchnogion busnes sydd ag eiddo rhent, incwm o gynilion neu sy'n bwriadu gwerthu eu busnes, yn arbennig, dalu sylw i'r Gyllideb hon. Er nad oes newidiadau mawr mewn Treth ar Werth (TAW) neu Dreth Gorfforaeth, mae'r meysydd hyn yn haeddu cael sylw agosach. Mae'r Llywodraeth yn dal i symud tuag at adroddiadau digidol, a bydd hyn yn dod â mwy o newidiadau gweinyddol dros y blynyddoedd nesaf.
Mae crynodeb isod o'r cyhoeddiadau allweddol a'r hyn maen nhw'n ei olygu i berchnogion busnes.
Gyda diolch i Williams Denton am baratoi a rhannu'r crynodeb hwn o'r prif faterion y dylai busnesau fod yn ymwybodol ohonynt yn dilyn Cyllideb 2026.