Mae'r gronfa yma wedi cau.
Cymunedau Mentrus – Cronfa Cefnogaeth Rhaglen ARFOR
Mae'r gronfa hon yn targedu mentrau masnachol, cymdeithasol, chydweithredol a chymunedol sy'n anelu at gadw a chynyddu cyfoeth yn lleol mewn ardaloedd sy’n cael eu hystyried yn gadarnleoedd y Gymraeg, sef Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin (rhanbarth ARFOR)
Cyngor Gwynedd sydd yn gweinyddu'r gronfa ar ran Gwynedd.
Beth sydd ar gael?
- Cyllid i gyfrannu at gostau refeniw a chyfalaf.
- Cefnogaeth ariannol i dalu am hyd at 70% o gostau'r prosiect.
- Cefnogaeth rhwng £5,000 a £75,000 ar gael.
Mae’r Gronfa am gefnogi prosiectau sy’n:
- Creu cyfle i arloesi a datblygu mentrau newydd yn unol ag adnoddau, tirwedd a’r amgylchedd lleol.
- Creu neu ehangu cyfleoedd gwaith cyfoes (er enghraifft. ym meysydd y cyfryngau, y byd digidol, ymchwil, gwasanaethau proffesiynol)
- Cadw cyfoeth yn y rhanbarth (er enghraifft, trwy feysydd megis cynhyrchu ac arbed ynni, cadwyni cyfenwi’r sectorau sylfaenol).
Mae gofyniad i ymgeiswyr gwblhau asesiad Iaith sy’n cael ei gynnal gan Gomisiynydd y Gymraeg fel rhan o’r broses, ac ymrwymo i weithio gyda Comisiynydd y Gymraeg i gael cydnabyddiaeth Cynnig Cymraeg erbyn Rhagfyr 2024. Cynnig Cymraeg (yn agor mewn tab newydd)
Gwneud Cais
Mae'r gronfa yma ar gau.
Cyhoeddusrwydd
Os ydych yn derbyn cefnogaeth drwy Gronfa Cymunedau Mentrus fel rhan o Rhaglen ARFOR mae na ofyniad i chi rhoi cydnabyddiaeth i’r gefnogaeth ariannol hyn. Welwych yr canllawiau cyhoeddusrwydd ac stribed logos isod.
Canllawiau Cyhoeddusrwydd
Canllawiau Cyhoeddusrwydd Cymunedau Mentrus yng Ngwynedd (yn agor mewn tab newydd)
Stribed Logos
Lliw (yn agor mewn tab newydd)
Cefndir du ac ysgrifen gwyn (yn agor mewn tab newydd)
Cefndir gwyn ac ysgrifen du (yn agor mewn tab newydd)
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth am y rhaglen newydd gweler wefan ARFOR (yn agor mewn tab newydd)
Am fformatau hygyrch fel print mawr, Braille neu Iaith Arwyddo Prydain cysylltwch â ni: busnes@gwynedd.llyw.cymru