Telerau ac Amodau: Menter Gwynedd Rhaglen Cymorth Busnes 26/27 Cam 1

  1. Dylai bob busnes sefydlog fod yn hyfyw yn ariannol.
  2. Dylai’r busnes gydymffurfio gyda’r holl reoliadau priodol, holl bolisïau gorfodaeth a safonau gwasanaeth sy’n berthnasol i’w sector busnes, gan gynnwys bod wedi cofrestru gyda’r Cyllid a Thollau ei Fawrhydi (HMRC) at ddibenion talu treth.
  3. Mae’n rhaid i bob gwaith proffesiynol (e.e. trydanol) gael ei wneud gan gontractwyr cymwys.
  4. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i gysylltu ag unrhyw un o’r busnesau sy’n cyflwyno dyfynbrisiau mewn cyswllt â’ch cais os oes angen eglurder pellach.
  5. Ni fyddwch yn derbyn cyllid i ariannu nwyddau a ddarperir gennych chi, eich busnes, nac unrhyw fusnes yr ydych yn berchen arno neu'n rhannol berchen arno.
  6. Mae’n rhaid hysbysu’r Cyngor o unrhyw gyswllt personol, teuluol neu fusnes rhyngoch chi/eich asiant ac unrhyw gyflenwr neu gontractwr.
  7. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod wedi cael neu wedi cydymffurfio â phob caniatâd cynllunio ac unrhyw ganiatâd statudol perthnasol arall cyn i chi gyflwyno’ch cais. Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth ddogfennol o hyn. Rhaid i’ch busnes neu’r gwaith rydych yn gyflawni hefyd gydymffurfio ag unrhyw drwyddedau/caniatâd/gofynion perthnasol eraill e.e. Iechyd a Diogelwch, ac ni ddylid defnyddio’r offer, na chaniatáu defnydd o’r offer, yn groes i’r gyfraith nag unrhyw reoliadau/is-ddeddfau sydd mewn grym ar y pryd.
  8. Wrth roi grant i chi, nid yw’r Cyngor yn cymeradwyo unrhyw beth tu hwnt i brynu’r offer sydd yn y cais.
  9. Ni ddylid dechrau unrhyw waith ar unrhyw adeilad nes eich bod wedi cael pob cymeradwyaeth neu ganiatâd sy’n angenrheidiol.
  10. Ni ellir talu arian am waith sydd eisoes wedi dechrau yn barod nac am unrhyw offer sydd wedi’i brynu yn barod
  11. Ni fydd y Cyngor yn roi grantiau i ymgeiswyr sydd â dyledion sylweddol i unrhyw adran o’r Cyngor.
  12. Gall y Cyngor wirio os oes Dyfarniad y Llys Sirol yn eich erbyn.
  13. Pan fydd prosiect yn golygu gwneud gwaith adnewyddu neu addasu adeilad sydd ar brydles, mae’n rhaid i weddill oes y brydles fod yn o leiaf 5 mlynedd ar ddiwrnod derbyn y cais gan y Cyngor. Byddwn hefyd angen tystiolaeth o ganiatâd y landlord.
  14. Mae’n rhaid i unrhyw deunyddiau fydd yn cael eu gweld gan eraill sydd wedi derbyn arian grant fod yn ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg).
  15. Rydych yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw drethi, asesiadau, taliadau neu unrhyw wariant arall sy’n daladwy yng nghyswllt defnyddio’r offer sy’n cael eu prynu gyda’r grant.
  16. Mae’n rhaid i chi ar bob achlysur rhesymol roi caniatâd i asiant awdurdodedig y Cyngor i ddod i mewn i’r eiddo i archwilio stad a chyflwr yr offer ac unrhyw lyfrau trafodion ariannol, cofnodion neu ddogfennau sy’n berthnasol i ddefnydd yr offer sydd wedi’u prynu gyda’r grant.
  17. Ni ddylech aseinio, diddymu, is-osod na chael gwared ar berchnogaeth o’r offer yn ei gyfanrwydd nac unrhyw ran ohono.
  18. Rhaid i chi yswirio'r offer sydd wedi’i brynu gyda’r grant, parhau i’w yswirio yn erbyn colled neu ddifrod hyd at werth llawn ei amnewid. Os bydd difrod yn digwydd yn ystod cyfnod cytundeb y grant ac nad yw ym marn yr yswiriwr yn economaidd i wneud yn iawn am ddifrod o’r fath, bydd yr holl arian yswiriant yn cael ei defnyddio i wneud yn iawn am y golled neu’r difrod. Bydd yn rhaid talu’r holl bremiymau a dylech ddarparu’r derbyniadau i’r Cyngor os gofynnir amdanynt. Dylech wneud popeth angenrheidiol i gadw’r gorchudd yswiriant yn gwbl weithredol ac i beidio â gwneud unrhyw beth a fyddai’n annilysu’r yswiriant.
  19. Bydd y grant yn cael ei dalu’n pan fydd y:
    1. Prosiect sy’n cynnwys gwaith adeiladu wedi cael ei gwblhau’n llawn a bod ardystiad gan Gyfadran Rheolaeth Adeiladu'r Cyngor (neu debyg) bod y gwaith yn dderbyniol.
    2. Dogfennau cefnogol perthnasol wedi cael eu cyflwyno i’r Cyngor.
  20. Os yn creu neu ddiogelu swyddi, y diffiniad o ‘swydd’ yw unrhyw swydd llawn amser yn y busnes ym mha bynnag rinwedd, swydd hunangyflogedig newydd neu swyddi sydd wedi’u creu gan fusnesau sy’n symud i mewn i’r sir. Bydd swyddi a grëir neu a ddiogelir o ganlyniad i'r cymorth yn cael eu mesur ar sail Cyfwerth ag Amser Llawn (CALl), sydd yn gyfwerth ag oriau wythnos waith llawn y busnes. Er enghraifft, bo wythnos waith amser llawn y busnes yn 30 awr, bydd unigolyn sy'n gweithio 30 awr yr wythnos yn cyfrif fel 1 CALl. Bydd unigolyn sy'n gweithio 15 awr yr wythnos yn cyfrif fel 0.5 CALl.
  21. Mae’n rhaid i fusnesau fasnachu am isafswm o 30 awr yr wythnos i fod yn gymwys.
  22. Mae’n rhaid i chi gytuno i beidio a gwneud, gwrthod gwneud na dioddef gwneud, unrhyw beth gall olygu fod yr offer yn cael ei fforffedu neu adfeddiannu neu y gallai beri risg i hynny ddigwydd.
  23. Mae’n dderbyniol prynu peiriannau, peirianwaith neu offer ail-law ar yr amod bod y pris yn deg ac nad yw wedi ei brynu’n wreiddiol dan gynllun a gyllidwyd gan grant arall.
  24. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i roi cyhoeddusrwydd o ddyfarnu’r grant.
  25. Dylai unrhyw gyhoeddusrwydd sy’n cael ei drefnu gennych sy’n ymwneud â derbyn y grant nodi cefnogaeth ariannol y cynllun. Mae hyn hefyd yn berthnasol i unrhyw deunyddiau marchnata/gwefannau. Caiff ganllawiau cyhoeddusrwydd llawn fel rhan o unrhyw cynnig swyddogol o nawdd.
  26. Unwaith y bydd y grant wedi cael ei gymeradwyo ni allwch gynnwys unrhyw eitemau ychwanegol yn yr hawliad oni bai fod hyn wedi’i gytuno gan y Cyngor.
  27. Os yw cyfanswm y gwariant yn llai na’r hyn oedd wedi’i ragweld, bydd y dyfarniad grant yn cael ei ostwng pro rata.
  28. Gellir hawlio’r TAW fel rhan o gyfanswm y grant os nad yw’r ymgeisydd wedi cofrestru at ddibenion TAW.
  29. Mae’n rhaid hysbysu’r Cyngor yn ysgrifenedig os oes unrhyw newid i’r ffordd y byddwch yn defnyddio’r offer sydd wedi eu prynu gyda’r grant.
  30. Yn ystod cyfnod 10 mlynedd o dderbyn taliad olaf eich grant gall y Cyngor yn ymweld â’ch eiddo er mwyn cynnal archwiliad monitro’r ased(au) busnes a gyllidwyd gan y grant.
  31. Mae Cyngor Gwynedd yn dal disgresiwn absoliwt o ran telerau, cymhwysedd a phenderfyniadau dyfarniadau grant a hefyd yn cadw’r hawl i ddiwygio’r meini prawf ar unrhyw adeg.
  32. Rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus ymrwymo i ymgymryd a gweithgareddau penodol i gynyddu’u defnydd o’r Gymraeg. Caiff y gweithgareddau yma eu monitro ac os nad ydynt wedi’u cwblhau gall yr arian grant ei ad-hawlio
  33. Rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus ymrwymo i dalu’r cyflog byw i weithwyr dros 18 oed erbyn Rhagfyr 2027. Mae manylion y cynllun ar wefan Living Wage Foundation (yn agor mewn tab newydd) (nodwch fod y dudalen yma ar gael yn Saesneg yn unig).
  34. Rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a Chynllun Lleihau Carbon gyda chymorth Busnes Cymru
  35. Rhaid i bob ymgeisydd gadw at egwyddorion Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 (yn agor mewn tab newydd)