Mae'r gronfa hon ar gau i geisiadau newydd
Mae Cronfa Uwchraddio Eiddo Masnachol Canol Trefi Bangor a Phwllheli wedi ei sefydlu i gefnogi perchnogion eiddo masnachol i wella ac uwchraddio ymddangosiad eu heiddo yng nghanol trefi Bangor a Phwllheli.
Rydym yn cydnabod bod canol trefi wedi wynebu cyfnod economaidd heriol, gyda chynnydd mewn nifer yr unedau gwag a dirywiad gweledol mewn rhai ardaloedd amlwg. Nod y gronfa yw gwneud gwahaniaeth pendant i ymddangosiad y stryd fawr, gan ei gwneud yn llefydd mwy deniadol i ymweld, byw a gweithio ynddynt.
Caiff y gronfa ei hariannu drwy Gronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU, ac mae’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Gwynedd.
Pwy all wneud cais
Mae’r grant ar gael i:
- Berchnogion eiddo masnachol
- Eiddo sydd wedi’u lleoli o fewn prif ardaloedd masnachol Bangor a Phwllheli
Gweld mapiau ffiniau yr ardaloedd masnachol (yn agor mewn tab newydd)
Faint allwch chi wneud cais amdano?
- Grant rhwng £2,500 a £10,000
- Hyd at 70% o gost y gwaith cymwys
Pryd allwch chi wneud cais?
Mae'r gronfa hon ar gau i geisiadau newydd
Beth ellir ei ariannu?
Cyllid ar gyfer gwelliannau cyfalaf allanol i eiddo masnachol o fewn canol y dref.
Enghreifftiau o’r hyn sy’n gymwys:
- Gwelliannau i ffabrig allanol yr adeilad;
- Peintio yr adeilad;
- Uwchraddio ffenestri a drysau;
- Arwyddion newydd
Beth sydd DDIM yn gymwys?
Ni fydd y canlynol yn gymwys ar gyfer cyllid:
- Gwelliannau i’r to;
- Gwelliannau mewnol;
- Gwelliannau i rannau o’r adeilad sydd ddim yn weledol i’r cyhoedd wrth basio’r adeilad.
- Unrhyw gost refeniw – enghreifftiau yn cynnwys astudiaethau/adroddiadau, deunyddiau marchnata, offer a chyfarpar bychan;
- Costau llafur unigolion ar eu heiddo;
- Prosiectau sydd eisoes wedi derbyn cyllid tebyg
Mae rhestr gyflawn o gostau cymwys ac anghymwys ar gael yn y canllawiau llawn:
Gweld canllawiau llawn (yn agor mewn tab newydd)
Gwybodaeth bwysig
- Rhaid cwblhau’r gwaith erbyn 31 Rhagfyr 2026
- Rhaid i’r gwaith gydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch
- Bydd angen caniatâd statudol (e.e. cynllunio) lle bo’n briodol
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda:
- adfywio@gwynedd.llyw.cymru neu ffoniwch 07557208534
Dogfennau a chanllawiau
Am wybodaeth lawn am y gronfa, gan gynnwys meini prawf cymhwysedd a’r broses ymgeisio: