Bydd benthyciadau bach a wneir gan y Gronfa rhwng £25k a £100k, gyda’r cyfle i fenthyg symiau uwch (benthyciad Ased o hyd at £750k) cyn belled â’i fod wedi ei gefnogi gan warant seiliedig ar ased gwerth da (tir ac adeiladau yn nodweddiadol). Bydd hyd tymor arferol benthyciad bach rhwng 36 a 60 mis; bydd benthyciad Ased fel arfer am o leiaf 60 mis.
Mae’r Gronfa yn gweithredu o fewn ffiniau Cyngor Gwynedd ac fe ddylai pob busnes fod â’i ganolfan weithredu neu fod â nifer sylweddol o’i weithwyr parhaol llawn amser o fewn ffiniau Gwynedd. Mae cymhwyster wedi ei gyfyngu i fusnesau (yn cynnwys mentrau cymdeithasol) sy’n gymwys fel busnesau Bach a Chanolig (BBaCh).
Pwrpas y benthyciad yw creu neu ddatblygu busnes ac nid i ad-dalu dyledion neu fenthyciadau eraill.
Cymhwyster
Bydd y Gronfa ar gael i fusnesau oddi fewn i ffiniau ardal Cyngor Gwynedd. Fe ddylai pob busnes fod â’i ganolfan weithredol neu nifer sylweddol o weithwyr parhaol llawn amser oddi fewn i ffiniau Gwynedd.
Cyfyngir cymhwyster i fusnesau bach neu ganolig eu maint (yn cynnwys mentrau cymdeithasol).
Pwrpas y benthyciad yw creu neu ddatblygu busnes ac nid i ad-dalu dyledion neu fenthyciadau eraill.
Bydd angen tystiolaeth i gadarnhau bod darpar ymgeiswyr wedi cysylltu, yn y lle cyntaf, gyda’u banc, er mwyn trafod eu hanghenion ariannu.
Gwybodaeth Bellach
Ceir benthyciadau bychain rhwng £25k a £100k gyda’r cyfle i fenthyg symiau mwy cyn belled ag y cefnogir hyn gyda gwarant yn seiliedig ar ased gwerthfawr.
Gall y benthyciad gael ei ddefnyddio fel cymorth tuag at wariant cyfalaf neu ariannu cyfalaf gweithredol.
Y cyfnod ad-dalu benthyciad bychan fydd rhwng 36 a 60 mis tra bod benthyciad ased fel rheol yn parhau dros o leiaf 60 mis.
Bydd llog yn cael ei godi ar bob benthyciad. Bydd y gyfradd llog yn ddarostyngedig i adolygiad blynyddol ar sail cyfraddau llog y farchnad.
Yn ddieithriad, bydd holl geisiadau benthyciad yn cael eu hasesu’n ariannol a’u gwerthuso gan ymgynghorwyr ariannol annibynnol a benodir gan Gyngor Gwynedd.
Bydd penderfyniad y Panel Gronfa Benthyciad yn derfynol. Bydd angen y wybodaeth a ganlyn er mwyn asesu pob cais am fenthyciad:
- Cynllun busnes sy’n rhoi manylion y busnes a’i gynlluniau ar gyfer y dyfodol CV manwl ar gyfer yr holl bartïon
- 3 blynedd o gyfrifon wedi’u harchwilio (os yn berthnasol)
- Copïau o ddatganiadau banc am y 6 mis diwethaf (os yn berthnasol)
- O leiaf 2 flynedd o ragamcanion mantolen, cyfrif Elw a Cholled a llif arian
- Eich cyfrifon rheoli diweddaraf a rhestr dyledwyr/credydwyr yn nhrefn amser (os ar gael)
- Eich Tystysgrif Ymgorfforiad (os ydyw ar gael)
- Tystiolaeth i gadarnhau bod darpar ymgeiswyr wedi cysylltu, yn y lle cyntaf, â’u banc, er mwyn trafod eu hanghenion ariannu
Canllaw i ymgeiswyr
Fel rhan o’i strategaeth i ymateb i’r dirwasgiad economaidd, cyhoeddodd Cyngor Gwynedd y ddogfen "Ymateb i’r Dirwasgiad" ym mis Mai 2009. Mae’r ddogfen hon yn cynnwys rhaglen o gynlluniau ac ymyraethau i gefnogi unigolion, busnesau, a chyrff cymunedol i sefydlogi a datblygu mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd.
Un o’r cynlluniau a gynhwyswyd yn y ddogfen oedd ystyried gwahanol opsiynau ar gyfer sefydlu Cronfa Fenthyciadau Lleol newydd i fusnesau yng Ngwynedd. Comisiynodd Cyngor Gwynedd waith er mwyn ymchwilio ymhellach i wahanol opsiynau i sefydlu cronfa fyddai’n hwyluso mynediad busnesau at gyllid i fuddsoddi.
Ym mis Tachwedd 2010, cymeradwyodd Bwrdd Cyngor Gwynedd y bwriad o sefydlu Cronfa Fenthyciadau fewnol.
Bydd benthyciadau bach rhwng £25k a £100k ar gael gan y Gronfa a bydd cyfle i ymgeisio am symiau mwy mewn amgylchiadau ble mae tystiolaeth glir bod angen cymorth ariannol i ddatblygu neu ehangu’r busnes.
Maint, cyfnod a diogelwch y buddsoddiad
Bydd Cronfa Fenthyciadau Gwynedd yn gronfa o hyd at £3 miliwn.
Bydd benthyciadau bychan rhwng £25k a £100k ar gael, ynghyd â chyfle i fenthyca symiau mwy (Benthyciadau Ased hyd at £750k) cyn belled ag y cefnogir hyn â gwarant yn seiliedig ar ased gwerthfawr (tir ac adeiladau fel arfer).
Cyfnod arferol benthyciad bychan fydd rhwng 36 a 60 mis; bydd benthyciad Ased fel rheol yn para am gyfnod o 60 mis neu fwy.
Dylid sicrhau sicrwydd dros asedau busnes ble y bo modd er y derbynnir y gall fod yn gyffredin cael arwystlon ar ôl bancwyr y cwmni. Fodd bynnag, wrth gydbwyso risgiau’r perchennog yn erbyn risgiau’r Gronfa, dylid sicrhau gwarantau personol (er nid sicrwydd dros asedau personol), pan fo hynny’n briodol.
Gellir caniatáu seibiant ad-dalu cyfalaf am hyd at 3 mis (ac am hyd at 6 mis mewn amgylchiadau arbennig) yng nghyswllt benthyciadau bychan. Ni chaniateir seibiant ad-dalu cyfalaf yng nghyswllt benthyciadau Ased dros £100k.
Busnesau sy’n gymwys i dderbyn cefnogaeth
Mae’r Gronfa yn gweithredu y tu mewn i ffiniau Cyngor Gwynedd ac fe ddylai pob busnes fod â’i ganolfan weithredol neu fod â nifer sylweddol o’i weithwyr parhaol llawn amser wedi’u lleoli y tu mewn i ffiniau Gwynedd.
Cyfyngir cymhwyster i fusnesau (yn cynnwys mentrau cymdeithasol), i Fusnesau Bach neu Ganolig eu maint (BBC). Mae’r rhain yn fusnesau:
- sydd â llai na 250 o weithwyr a throsiant o hyd at €50 miliwn neu fantolen o hyd at €43 miliwn (diffiniad y UE o gwmni canolig ei faint.);
- sy’n medru dangos eu bod wedi bod yn aflwyddiannus wrth geisio sicrhau arian yn y sector masnachol;
- sydd â chynlluniau busnes dichonadwy
- rhaid i holl ymgeiswyr y gronfa dystio bod ganddynt bolisïau/datganiadau amgylcheddol, iechyd a diogelwch, cyfle cyfartal ac anabledd yn eu lle.
Pwrpas y benthyciad hwn yw rhoi cefnogaeth i greu, ailstrwythuro, datblygu neu ehangu busnes ac ni fydd ymgeiswyr sy’n dymuno ei ddefnyddio i glirio dyledion neu fenthyciadau cyfredol gan fenthycwyr (er enghraifft, fel mecanwaith ar gyfer rheoli dyled wael), yn gymwys.
Yn ogystal, rhaid i’r holl fusnesau sy’n gymwys i gael mynediad at y gronfa ddangos eu potensial drwy gynnig tystiolaeth o bump o’r nodweddion a ganlyn, fan leiaf:
- Dyhead ac agwedd yr entrepreneur, perchennog/rheolwr ac uwch reolwyr
- Gallu a chapasiti’r tîm arweiniol
- Chwilio am arian o ffynonellau allanol
- Tystiolaeth o lyfr archebion cadarn
- Potensial yn y galw gan gwsmeriaid
- Gwybodaeth drwyadl am y diwydiant a’r sector
- Pwrpas twf clir – e.e. buddsoddi, arloesi, ehangu, ailstrwythuro
- Tystiolaeth o’r parodrwydd a’r gallu i arloesi
Yn gyffredinol, bydd pob sector yn gymwys i dderbyn cymorth gan y Gronfa; er gwaetha’r ffaith bod llywodraethau’r Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig yn gosod cyfyngiadau ar y sectorau busnes a bydd angen i’r Gronfa brofi ei gallu i wneud buddsoddiadau yn y sectorau hyn. Er enghraifft, os yw arian Cydgyfeiriant yn cael ei dderbyn naill ai fel rhan o swm y Gronfa neu i gefnogi rheolaeth y Gronfa, bydd angen eithrio sectorau anghymwys.
Nodwch: Pe derbynnid arian Cydgyfeiriant naill ai fel rhan o swm y Gronfa neu fel cefnogaeth i reoli’r Gronfa, bydd angen i sectorau anghymwys gael eu heithrio fel a ganlyn:
- Y rhai a ddiogelir gan gyfyngiadau sector y Gymuned Ewropeaidd; yn cynnwys ffibrau synthetig, tecstilau a dillad, adeiladu llongau, glo a dur, amaethyddiaeth a phrosesu bwyd
- Banciau a chwmnïau yswiriant
- Sefydliadau addysg sy’n darparu addysg oedran ysgol
- Gall y mentrau sy’n cynnig addysg dechnegol neu hyfforddiant galwedigaethol fod yn gymwys
- Darpariaeth cyfleusterau lles cymdeithasol lleol e.e. ysbytai, cartrefi nyrsio, gorsafoedd tân, meithrinfeydd dydd, cyfleusterau gofal plant, cyfleusterau chwaraeon, parciau, llyfrgelloedd cyhoeddus oni bai eu bod yn gysylltiedig â gweithgareddau economaidd (e.e. mentrau cymdeithasol)
- Cyfleusterau Manwerthu – ac eithrio eithriadau prin, er enghraifft, ble mae darpariaeth neu welliant allanfa fanwerthu yn rhan hanfodol bwysig o strategaeth datblygu economaidd gyffredinol
- Adeiladu ac adnewyddu tai yn gyffredinol, er fel rhan o strategaeth ehangach i adfywio’r ardal, gall gwella ystadau allanol ac adeiladau amlwg mewn lleoliadau allweddol gael eu cefnogi pan mae cyswllt agos rhyngddynt hwy ag amcanion y Rhaglen Cydgyfeiriant.
Prisiau
Codir cyfradd llog o 7.5%, 10% neu 12.5% ar yr holl fenthyciadau yn dibynnu ar amgylchiadau’r busnes (adolygir yn flynyddol, fan leiaf, yn seiliedig ar gyfraddau llog y farchnad a llwyddiant y busnesau i ad-dalu’r benthyciadau i Gyngor Gwynedd).
Bydd yn rhaid codi Ffi Trefnu o hyd at 1% am fenthyciadau unigol i dalu am unrhyw gostau perthnasol – i’w adolygu’n flynyddol, fan leiaf.
Bydd mynediad a gwybodaeth ar gael drwy sawl dull:
3.1 Ymholiadau Cychwynnol
- Bydd manylion y gronfa, meini prawf cymhwyster a ffurflenni ymholiad i’w cael ar wefan Cyngor Gwynedd. Bydd cyfeiriad e-bost ynghlwm wrth y ffurflen ymholiad fel y gellir cyflwyno’r ffurflen yn uniongyrchol i ymholiadau Cyngor Gwynedd.
- Bydd Tîm Cefnogi Busnes Cyngor Gwynedd yn gallu rheoli ymholiadau uniongyrchol gan gleientiaid neu ganolwyr posib
- Dylid dychwelyd ffurflenni ymholiad (print neu electronig) i Gyngor Gwynedd er mwyn derbyn ymateb cychwynnol
Fe asesir ymholiadau cychwynnol ar sail cymhwyster fel y nodir uchod. Mae’r rhain yn cynnwys natur y cais a’r swm, lleoliad a materion sector a dadleoli. Os yw’r busnes yn gymwys, bydd y telerau ariannol yn cael eu hegluro a bydd ffurflenni cais yn cael eu darparu ynghyd â chanllawiau benthyciad sy’n rhoi manylion ynghylch pa ddogfennaeth gefnogol fydd angen ei chyflwyno.
3.2 Cais am Fenthyciad a’i Brosesu
Ceisiadau
Bydd y Tîm Cefnogi Busnes yn derbyn y ffurflenni cais ac yn dilyn dau gam cymhwyso:
- Cynnal gwerthusiad, wrth y ddesg, o’r ffurflen gais, y cynllun busnes a’r ddogfennaeth gefnogol. Os bydd yn foddhaol, yna
- Trefnir bod y ceisiadau cyflawn yn cael eu hanfon ar yr Ymgynghorydd Ariannol fel y gall gynnal gwerthusiad ariannol ac asesiad manwl ohonynt.
Gwerthuso wrth y ddesg
Gwerthusiad masnachol: Bydd pob cais yn cael ei werthuso gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar egwyddorion ymarfer benthyca da, yn cynnwys gwirio credyd, sgorio a gwerthuso’r ffurflen gan ddefnyddio meini prawf, prawf adnabod (ID), gwrthodiad banc a chynllun busnes.
Gwerthuso Ceisiadau am Fenthyciadau
Bydd yr Ymgynghorydd Ariannol a benodir, yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir gan yr ymgeisydd, yn darparu adroddiad cynhwysfawr yn cynnwys cydnabyddiaeth o unrhyw risg sydd ynghlwm â’r buddsoddiad, gwybodaeth am unrhyw gyflyrau marchnad cyfredol ac argymhelliad clir a chryno i’w gyflwyno i Banel Benthyciadau Cyngor Gwynedd.
Bydd angen yr wybodaeth a ganlyn er mwyn asesu'r ceisiadau am fenthyciad:-
- Cynllun busnes sy’n nodi manylion y busnes a’i gynlluniau ar gyfer y dyfodol
- CV manwl ar gyfer holl berchnogion, cyfarwyddwyr a phartneriaid y busnes
- Cyfrifon wedi’u harchwilio am y tair blynedd ddiwethaf
- Copïau o gyfriflenni banc y chwe mis diwethaf
- Rhagamcanion o’r fantolen, Elw a Cholledion a llif arian am y ddwy flynedd nesaf
- Eich cyfrifon rheoli diweddaraf a rhestr dyledwyr/credydwyr yn nhrefn amser (os ydynt ar gael)
- Eich Tystysgrif Ymgorfforiad (os ydyw ar gael)
- Tystiolaeth i gadarnhau bod darpar ymgeiswyr wedi cysylltu, yn y lle cyntaf, â’u banc, er mwyn trafod eu hanghenion ariannu
Panel y Gronfa Fenthyciadau
Sefydlir Panel y Gronfa Fenthyciadau a bydd ganddo’r datganiad o bwrpas a ganlyn:
- Rhoi ystyriaeth haeddiannol i geisiadau i’r gronfa fenthyciadau a gyflwynir i Gyngor Gwynedd gan fusnesau lleol.
- Argymell cymeradwyo ceisiadau i’r gronfa fenthyciadau neu beidio, ynghyd ag amodau a thelerau penodol yng nghyswllt y cyfnod ad-dalu a, pan fo’n bosib a phriodol, cael gwarant dros yr asedau busnes.
Gall y Panel wneud un o bedwar penderfyniad posib:
- Angen gwybodaeth bellach
- Cytuno heb amodau
- Cytuno gydag amodau
- Gwrthod y cais am fenthyciad
Hysbysir yr ymgeisydd ynghylch canlyniad Panel y Gronfa Fenthyciadau o fewn 48 awr. Os gwrthodir y cais, fe hysbysir yr ymgeisydd ynghylch y Drefn Apêl.
Cynigion y Drefn Apêl
- Bydd gan y cleient yr hawl i apelio os yw’r cais yn cael ei wrthod, ond bydd gofyn i’r cleient gyflwyno’i apêl yn ysgrifenedig cyn pen 7 diwrnod gwaith gan nodi rhesymau penodol am yr apêl.
- Cyflwynir yr Apêl yng nghyfarfod nesaf Panel y Gronfa Fenthyciadau ac hysbysir y cleient ynghylch y penderfyniad.
Cytundebau Benthyciadau
- Cyflwynir Cytundeb Benthyciad ynghyd ag unrhyw ddogfennau angenrheidiol eraill megis gwarantau Cyfarwyddwr, dogfennau sicrwydd a ffurflenni gorchymyn sefydlog. Cyflwynir Cytundebau Benthyciad cyn pen 10 diwrnod gwaith o gymeradwyo’r cais.
- Dan amgylchiadau penodol, bydd angen sicrwydd fel modd o Arwystl Gyfreithiol. Dan yr amgylchiadau hyn bydd Cyngor Gwynedd yn gofyn am wybodaeth ddigonol ynghylch unrhyw eiddo ym mherchnogaeth yr ymgeisydd fel y gall fwrw ymlaen.
- Bydd gan ymgeiswyr 30 diwrnod i dderbyn telerau ac amodau’r cynnig benthyciad; wedi hynny daw'r cynnig i ben.
- Yn dilyn derbyn y cynnig a chwblhau unrhyw ddogfennaeth sicrwydd angenrheidiol, bydd y benthyciad yn barod i’w ddefnyddio.
Talu
- Telir y benthyciad trwy BACS i gyfrif banc dynodedig yr ymgeisydd.
- Didynnir unrhyw ffioedd trefnu neu ffioedd sicrwydd o’r benthyciad ac fe gadarnheir manylion y didyniadau yn y nodyn talu.
Ffurflen datgan diddordeb: Cronfa Benthyciadau Busnes (yn agor mewn tab newydd)
Cysylltu â ni
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni:
- Ar-lein: Ymholiad busnes ar-lein
(yn agor mewn tab newydd)(Rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)