Gwneir y cytundeb hwn rhwng y preswylydd ('y cwsmer') a Chyngor Gwynedd ( 'y Cyngor') o Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon, Gwynedd LL55 2BF.
Mae’n nodi'r telerau a'r amodau i’r cwsmer ddefnyddio gwasanaeth casglu gwastraff swmpus y Cyngor ( 'y gwasanaeth’). Os yn talu gyda cerdyn credyd neu debyd bydd dyddiad y casgliad yn cael ei roi i chi cyn i chi wneud taliad. Os yn talu gyda siec byddwch yn derbyn dyddiad casglu ar ôl i’r gwasanaeth dderbyn y siec. Gall y Cyngor amrywio neu newid y telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg. Byddwch yn cael 10 diwrnod o rybudd ysgrifenedig o unrhyw newidiadau o'r fath.
Pris y gwasanaeth yw £45. Byddwn yn casglu hyd at 5 eitem am y pris hwn. Gall cwsmer dalu £90 i ni gasglu 10 eitem.
Gall gwsmer dalu’r Cyngor gyda cherdyn credyd/ debyd dros y ffon neu ar-lein trwy wefan Cyngor Gwynedd neu gyda arian parod neu siec yn un o Siopau Gwynedd. · Yn unol â’r Rheoliadau Gwerthu o Bellter gallwch wneud cais i ganslo ar-lein trwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar wefan Cyngor Gwynedd (www.gwynedd.llyw.cymru) neu dros y ffon (01766 771 000) hyd at 10 diwrnod cyn dyddiad y casgliad a chael ad-daliad llawn.
Os bydd cwsmer yn canslo llai na 10 diwrnod cyn y casgliad ni fydd cwsmer yn derbyn ad-daliad. Gall y gwasanaeth gynnig ad-daliad mewn amgylchiadau arbennig, disgresiwn y gwasanaeth fydd hyn.
Y gwasanaeth mae’r Cyngor yn ei gynnig i’r cwsmer gyda Chasgliad Swmpus yw casglu eitemau nad oes modd eu cyflwyno yn y casgliadau gwastraff tŷ arferol (gwasanaeth bin olwyn/sachau du). Rhaid i’r eitemau hyn gael eu cyflwyno mewn lleoliad amlwg a chyfleus sydd ddim yn achosi unrhyw rwystr i eraill e.e o fewn cwrtil yr eiddo ble maen hwylus i’r casglwyr gael mynediad (gardd ffrynt/gardd gefn). Ni fydd gweithwyr Cyngor Gwynedd yn mynd fewn i unrhyw dŷ i gasglu unrhyw eitem. Os nad yw’r eitemau yn cyd-fynd a’r eitemau a nodwyd wrth gyflwyno’r cais ni fydd gweithlu Cyngor Gwynedd yn casglu’r eitemau hyn. Os nad yw’n amlwg pa eitem/eitemau sydd angen eu casglu ni fydd casgliad yn cymryd lle.
Os yw’r eitemau angen eu casglu o gefn y tŷ neu leoliad ble mae mynediad drwy ddefnydd o lwybr rhaid gofalu nad oes unrhyw rwystr a bod mynediad diogel i weithlu Cyngor Gwynedd.
Os bydd eitemau wedi eu gadel allan am gyfnod hir a drwy hynny wedi gwlychu gan gynyddu pwysau’r eitem yn sylweddol (er enghraifft rôl o garped neu fatres gwely) mae gan weithlu y Cyngor hawl i wrthod eu casglu. Rydym yn cadw’r hawl i wrthod casglu unrhyw eitem sydd yn beryglus neu yn rhu drwm i weithlu’r Cyngor eu codi.
Dim ond os ydych wedi archebu eich casgliad o flaen llaw y byddwn yn casglu eich gwastraff swmpus.
Rhaid gadael eich eitemau yn y man casglu a nodwyd wrth gyflwyno’r cais cyn 06:00 y bore a’r fore’r casgliad. Gydag eitemau sydd yn cael eu heffeithio gan y tywydd (carped/matresi) mae’n bwysig eu rhoi allan mor agos i’r amser casglu ac sydd yn ymarferol bosib fel nad oes sgil effaith ar allu gweithlu’r Cyngor i’w casglu.
Nid ydym yn casglu unrhyw wastraff masnachol neu wastraff adeiladwyr.
Rhaid tynnu eitemau fel gwlâu a siediau oddi wrth eu gilydd cyn eu cyflwyno. Nid ydym yn casglu siediau sydd yn fwy na 8 troedfedd x 6 troedfedd. Ni fyddwn yn casglu unrhyw beth sydd ag asbestos ynddo.