Cysylltu â ni mewn argyfwng

Ffoniwch ni 24 awr y dydd ar

01766 771000

neu ewch i'r dudalen Cysylltu mewn argyfwng (yn agor mewn tab newydd) am ragor o rifau cyswllt.

Cofiwch mai eich cyfrifoldeb chi yw amddiffyn eich eiddo rhag llifogydd. Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am hyn.


Y diweddaraf yn ystod llifogydd

Yn ystod cyfnod o dywydd garw difrifol bydd gwybodaeth am wasanaethau a chyflwr y ffyrdd ar gael ar gyfrif Facebook Cyngor Gwynedd (yn agor mewn tab newydd).

(Nid oes angen cyfrif Facebook er mwyn gweld yr wybodaeth).


Ffyrdd a phriffyrdd

I roi gwybod am broblem ar y ffordd oherwydd llifogydd, dŵr sy'n sefyll, neu gyli wedi blocio cysylltwch â ni:

Cysylltu â ni ar-lein: Llifogydd (yn agor mewn tab newydd)

Gwybodaeth teithio


Rhybuddion llifogydd

I weld rhestr o rybuddion llifogydd a chyngor ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (yn agor mewn tab newydd) neu ffoniwch 03000 65 3000.

Os ydych yn byw mewn ardal sy’n dioddef llifogydd manteisiwch ar system Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n eich rhag rybuddio am lifogydd. Mae’r gwasanaeth ar gael yn rhad ac am ddim.


Bagiau tywod

Bydd y Cyngor yn ceisio darparu bagiau tywod i bobl sy'n gofyn amdanynt os oes risg uchel o lifogydd buan i'r eiddo.  Mae gallu'r Cyngor i ddarparu bagiau tywod yn ddibynnol ar y galw sydd ar y gweithwyr oherwydd maint a difrifoldeb y llifogydd.
I wneud cais am fagiau tywod, cysylltwch â ni:

Cais am fagiau tywod (yn agor mewn tab newydd)

Neu mewn argyfwng ffoniwch 01766 771000.


Gwastraff ac ailgylchu

Rhowch eich gwastraff allan fel arfer yn ystod cyfnod o lifogydd os yw'n ddiogel i wneud hynny. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i’w gasglu. Mwy o wybodaeth biniau ac ailgylchu


Ysgolion


Llyfrgelloedd


Cyngor iechyd i rai sydd wedi dioddef llifogydd

Mae’n bwysig bod yn ofalus wrth lanhau ar ôl lifogydd. Fe all dŵr llifogydd fod yn llygredig. Os rydych yn dod i gyswllt â dŵr llif neu eitemau sydd wedi difrodi gan ddŵr llifogydd, Mae gwybodaeth a chyngor ar gael drwy fynd i wefan: