Nyth: Cartrefi Clyd
Cynllun gan Lywodraeth Cymru yw Nyth sy’n cynnig cyngor a gwelliannau am ddim i’r cartref i’ch helpu i arbed ynni ac arian. Ers 2011, mae Nyth wedi darparu gwelliannau ynni i’r cartref am ddim i dros 60,000 o gartrefi.
Cyngor Arbed Ynni
Mae eu cynghorwyr yn cynnig cyngor diduedd am ddim i’ch helpu i leihau eich biliau ynni a gwella eich iechyd a’ch lles. Mae hyn yn cynnwys:
- dod o hyd i’r tariff ynni a dŵr gorau ar gyfer eich cartref
- budd-daliadau i roi hwb i incwm eich cartref
- helpu i leihau’ch ôl troed carbon
- cyngor ar osod eich technoleg carbon isel eich hunan
Cymorth gyda gwelliannau effeithlonrwydd ynni i'r cartref
Mae cynllun Nyth hefyd yn darparu cymorth gyda gosod gwelliannau effeithlonrwydd ynni am ddim ar gyfer eich cartref, a allai gynnwys system wresogi newydd, paneli solar neu inswleiddio.
Gallech fod yn gymwys ar gyfer gwelliannau ynni am ddim i’r cartref os ydych yn bodloni’r tri amod yma:
- rydych chi’n berchen ar eich cartref neu’n ei rentu’n breifat
- rydych chi’n derbyn budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd neu’n byw mewn cartref incwm isel
- mae gan eich cartref sgôr tystysgrif perfformiad ynni (EPC) o 54 (E) neu lai; neu sgôr EPC o 68 (D) neu lai ac mae gan rywun yn eich cartref gyflwr iechyd cymwys.
Os nad oes gwres neu ddŵr poeth yn eich cartref, gall y cynllun ddarparu atgyweiriad ar gyfer eich boeler neu gyfnewid eich boeler heb unrhyw gost i chi.
Dysgu mwy
Am fwy o wybodaeth: