Iechyd Meddwl
Gall problemau iechyd meddwl effeithio unrhyw un ar unrhyw amser. Mae ein timau iechyd meddwl cymunedol yn cynnig cefnogaeth a gwasanaethau i gefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl a'u gofalwyr.
Llyfryn gwybodaeth sy'n cynnig syniadau am sut i edrych ar ôl eich iechyd a'ch lles.
Close
Mae llyfrau cymorth hefyd ar gael yn eich llyfrgell leol: Llyfrau ar Bresgripsiwn Darllen Yn Well: Iechyd Meddwl
Timau Iechyd Meddwl Gwynedd
Mae'r timau'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, nyrsys, therapyddion galwedigaethol a seicolegwyr.
Gallwn:
- ddarparu triniaeth a gofal i bobl ag anghenion iechyd meddwl tymor byr neu anghenion tymor hir mwy cymhleth
- eich helpu i gael cymorth personol tymor hir i'ch helpu i fyw mor annibynnol â phosib
- cynnig cyngor a rhannu manylion cyswllt sefydliadau defnyddiol
- cefnogi gofalwyr.
Cysylltu â ni
Os ydych yn teimlo eich bod chi neu rywun arall angen y gefnogaeth hon, gofynnwch i'ch meddyg eich cyfeirio atom, neu cysylltwch ag un o'n timau:
- Tîm Iechyd Meddwl de Gwynedd: 03000 850027
Ysbyty Alltwen, Tremadog, Porthmadog, Gwynedd
- Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Arfon: 03000 840306
Uned Hergest, Ysbyty Gwynedd, Bangor, Gwynedd
Iechyd Meddwl Dynion
Taflen wybodaeth
Cysylltau defnyddiol