Cynllun Prynu i Osod

Trwy'r cynllun Prynu i Osod, mae'r Cyngor yn prynu tai ar y farchnad agored i'w gosod i drigolion Gwynedd ar rent fforddiadwy. Nod y cynllun yw cynyddu'r nifer ac ystod o dai fforddiadwy o safon sydd ar gael o fewn y Sir.  

Mae’r Cyngor yn cydweithio ag Adra ar y cynllun hwn, gydag Adra yn cymryd cyfrifoldeb am reoli eiddo ar ran y Cyngor.   

Mae'r cartrefi ar gael i unigolion sy'n bodloni meini prawf Tai Teg. I’r rhai sydd â diddordeb, cofrestru gyda Tai Teg yw’r cam cyntaf i wneud cais am dŷ. 

Dros y blynyddoedd nesaf, bydd y Cyngor yn ystyried prynu eiddo ar draws Gwynedd sy'n cwrdd â meini prawf arbennig, gan gynnwys cwrdd ag anghenion ardaloedd penodol, gwerth a chyflwr yr eiddo.    

Mae'r cynllun hwn yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd, sy'n anelu at ddarparu dros 1000 o gartrefi i bobl Gwynedd yn y blynyddoedd i ddod. Mae’r cynllun Prynu i Osod yn anelu’n benodol at gyfrannu 100 o gartrefi at y targed hwn.  

 

Mae'r cynllun hwn ar gyfer unigolion sy’n methu prynu neu rentu tŷ ar y farchnad agored ond sy’n annhebygol o fod yn gymwys am dai cymdeithasol.  

Gallwch ddarganfod a ydych yn gymwys i wneud cais am un o’r cartrefi trwy fynd ar wefan Tai Teg, sef y corff sydd yn gweinyddu cynlluniau tai fforddiadwy ar gyfer Cyngor Gwynedd. 

Gwefan Tai Teg: Ydw i'n gymwys? 

  • Byddwch yn gallu gwneud cais am gartref o dan y cynllun. 

  • Gallwch wneud ceisiadau am dai fforddiadwy eraill ar draws y Sir, a'r Cynllun Prynu Cartref. 

  • Byddwch yn ein helpu i gynllunio ein datblygiadau yn y dyfodol gan y bydd yn dangos i ni yn lle mae'r galw am dai fforddiadwy. 

     Cofrestru gyda Tai Teg