Dechrau'n Deg
Efallai eich bod yn byw mewn pentref sydd yn derbyn Gwasanaeth Cefnogi Teulu drwy raglen Dechrau’n Deg. Mae Dechrau’n Deg yn cynnig mwy o gymorth a chyfleoedd i deuluoedd sydd gyda phlant dan 4 oed sy’n byw mewn cymunedau penodol o Wynedd.
Mae Dechrau'n Deg yn cynnig cymorth i rieni wrth i'w plant dyfu a datblygu.
- Ymwelwyr Iechyd
Mae ein ymwelwyr iechyd yn gallu treulio mwy o amser efo teuluoedd unigol, eu cefnogi a bod o help i rieni wrth fagu plant. Mae'r tîm iechyd ehangach yn cynnig cyrsiau rhiantu, grwpiau gwahanol fel Tylino / Mwytho Babi a sesiynau hybu iechyd.
- Iaith Llefaredd a chyfathrebu
Mae ein tîm o swyddogion Datblygiad Cynnar a Chwarae yn cynnig sesiynau 1:1 yn y cartref neu yn un o leoliadau Dechrau'n Deg.
Bydd y swyddogion yn gweithio'n agos gydag aelodau eraill gan gynnig sesiynau grŵp i ddatblygu sgiliau datblygiad cynnar a chwarae.
- Cefnogaeth Rhiantu
Mae tîm o swyddogion arbenigol yn cynnig pecynnau cefnogaeth magu teulu, sesiynau 1:1 yn y cartref, arweiniad a help i ddatrys problemau fel sefyllfa'r cartref. Mae sesiynau'n grŵp ar gael i rieni, fel Y Blynyddoedd Rhyfeddol a Nurture Links.
- Gofal Plant:
Rydym yn cynnig hyd at 12.5 awr o ofal plant rhwng 2-3 am ddim yn ystod y tri thymor ysgol. Bydd plant yn gallu cychwyn y tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 2 oed.
- A mwy...
Mae Plas Pawb, Maesincla a Chaban Bach Barnados, Maenofferen a Chanolfan Tŷ Cegin, Maesgeirchen yn cynnal cyrsiau, gofal plant ac yn cynnig cyfle i chwarae a chymdeithasu.
Mae Dechrau'n Deg hefyd yn gweithio'n agos gyda phrosiectau fel Teuluoedd yn Gyntaf i gynnig cyfleoedd a phrofiadau i deuluoedd Gwynedd.
Os yw eich plentyn yn cael ei ben-blwydd yn 2 oed rhwng Ebrill 1 ac Awst 31, bydd yn gallu cychwyn Dechrau'n Deg ym mis Medi.
Os yw eich plentyn yn cael ei ben-blwydd yn 2 oed rhwng Medi 1 ac Rhagfyr 31, bydd yn gallu cychwyn Dechrau'n Deg ym mis Ionawr.
Os yw eich plentyn yn cael ei ben-blwydd yn 2 oed rhwng Ionawr 1 a Mawrth 31, bydd yn gallu cychwyn Dechrau'n Deg ar ôl y Pasg.
Dyma'r lleoliadau gofal plant sydd ar gael:
Gofal plant
Bangor |
Cylch Meithrinfa
Caban Cegin
|
|
|
|
|
Caernarfon |
Cylch Meithrin Maesincla |
Cylch Seiont a Peblig |
Meithrinfa Plas Pawb |
|
|
Blaenau Ffestiniog |
Meithrinfa Caban Bach |
|
|
|
|
Bethesda |
Cylch Cefnfaes |
Meithrinfa Ogwen |
|
|
|
Dyffryn Nantlle |
Cylch Talysarn |
Cylch Carmel |
Cylch Brynaerau |
Cylch Llanllyfni |
Cylch Penygroes |
Dolgellau |
Cylch Meithrin Dolgellau |
|
|
|
|
Lle mae Dechrau'n Deg ar gael?
Mae eich hawl i fanteision y Cynllun yn dibynnu ar eich cod post. Defnyddiwch y gwiriwr cod post isod i weld os ydych chi'n gymwys am y cynllun ai peidio:
Mwy o wybodaeth
Eich Ymwelydd Iechyd yw eich prif gyswllt â Dechrau'n Deg.
Neu cysylltwch â'r Tîm Canolog ar:
01286 678 824 / DechraunDeg@Gwynedd.llyw.cymru.
Beth ydym ni'n gwneud â'ch a sut rydym yn defnyddio eich data?