Help i gael bwyd

Banciau bwyd

Mae banciau bwyd yn rhoi bwyd i bobl pan mae nhw mewn argyfwng, heb fwyd. 

Gweld rhestr banciau bwyd 


Pantri bwyd

Mae Pantri Bwyd yn rhoi pecynnau o fwyd fforddiadwy i bobl, gan amlaf am gyfraniad bychan. Gallwch ddefnyddio pantri lleol fel ffordd arall o gael b

wyd iach a fforddiadwy, a byddwch yn helpu i stopio’r bwyd hwnnw rhag mynd i wastraff. 

Gweld mwy am y Pantris Bwyd



Cinio ysgol am ddim

Os oes gennych blentyn oed ysgol mae hefyd yn bosib y gallwch hawlio cinio ysgol am ddim

Gweld manylion cinio ysgol am ddim 

 

Cymorth os yn feichiog / gyda plant ifanc

Os ydych yn feichiog neu efo plentyn o dan 4 oed gallwch hefyd dderbyn cymorth i brynu bwyd a llefrith drwy'r cynllun Cychwyn Iach: 

Help i brynu bwyd a llefrith (Cychwyn Iach) 

 

Ryseitiau i arbed gwastraff bwyd

Casgliad o ryseitiau yn defnyddio cynhwysion syml, hawddi'w cael, a rhai ohonynt yn bethau sydd yn aml yn cael eu gwastraffu:

Ryseitiau i arbed gwastraff bwyd

 

Hybiau Cymunedol

Gallwch hefyd gael help a gwybodaeth am fwyd, ynni ac arian drwy’r hwb yn eich ardal lleol.

Gweld manylion cyswllt hybiau lleol