Help efo biliau (trydan, nwy, treth, dŵr)

Gall unrhyw un fynd ar ei hôl hi gyda biliau, ond dydi hi BYTH yn rhy hwyr i ofyn am help.

Os ydych chi’n cael trafferth talu eich biliau ynni mae'n bosib y gall eich cyflenwr helpu. Cyngor gan Ofgem.

 

Mae Cyngor Gwynedd yn gallu eich helpu gyda biliau’r cartref hefo’r taliadau yma: 


Help efo bil dŵr

 

Help efo bil ffôn a rhyngrwyd

I weld pa gymorth sydd ar gael, ewch i:

 

Cardiau SIM am ddim

Chwilio am help i gael mynediad i’r rhyngrwyd ar eich ffôn symudol? Mae'n bosib cael cerdyn SIM am ddim o lyfrgelloedd Gwynedd

  • I wneud cais am gerdyn SIM am ddim rhaid bod dros 18 oed ac yn byw, astudio neu weithio yng Ngwynedd.
  • Mae’r cardiau SIM yn gweithio gyda ffonau neu dabledi sydd a chyswllt cellular (h.y gallu gwneud galwadau ffon).
  • Mae cardiau SIM O2, Three a Vodafone ar gael, a gallwch wneud cais ar ran unigolyn neu cyfeirio ymlaen.
  • Gall y cerdyn SIM ei yrru drwy’r post, neu gall unigolyn gasglu’r cerdyn o unrhyw un o lyfrgelloedd Gwynedd trwy drefniant ymlaen llaw.
  • Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: llyfrgelloedd@gwynedd.llyw.cymru

 

Help i fynd ar-lein

Cofiwch ei bod yn bosib cael mynediad am ddim i’r we yn bob un o lyfrgelloedd Gwynedd.  

Neu cysylltwch gyda Gwynedd Digidol i gael help personol i wenud mwy ar lein, neu i gael benthyg dyfais a data:

 

Taliadau Cymorth mewn Argyfwng (EAP)

Grant i helpu â chostau hanfodol, megis bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio mewn achos o argyfwng:

 

Cynlluniau Cefnogaeth

I weld y cynlluniau cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Prydain ewch i:

 

Hybiau Cymunedol

Gallwch hefyd gael help a gwybodaeth am fwyd, ynni ac arian drwy’r hwb yn eich ardal lleol.