Iechyd Meddwl
Gall problemau iechyd meddwl effeithio unrhyw un ar unrhyw amser. Mae timau iechyd meddwl Cyngor Gwynedd, a arweinir gan weithwyr cymdeithasol, yn cynnig cefnogaeth a gwasanaethau cymdeithasol i gefnogi unigolion dros 18 oed, a’u gofalwyr, gyda’u anghenion iechyd meddwl.
Llyfryn gwybodaeth 'Edrych ar ôl fy hun' - Llyfryn gwybodaeth sy'n cynnig syniadau am sut i edrych ar ôl eich iechyd a'ch lles.
Mae llyfrau cymorth hefyd ar gael yn eich llyfrgell leol: Llyfrau ar Bresgripsiwn Darllen Yn Well: Iechyd Meddwl
Gwasanaeth Cymdeithasol Iechyd Meddwl - Cyngor Gwynedd
Mae dau dîm o weithwyr cymdeithasol a gweithwyr cefnogol gan Cyngor Gwynedd i gynorthwyo unigolion gyda’u anghenion iechyd meddwl.
Gallwn:
- ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth cymdeithasol i bobl ag anghenion iechyd meddwl
- eich helpu i gael cymorth personol i'ch helpu i fyw mor annibynnol â phosib
- cynnig cyngor a rhannu manylion cyswllt sefydliadau defnyddiol
- cefnogi gofalwyr.
Cysylltu â ni
Os ydych yn teimlo eich bod chi neu rywun arall angen y gefnogaeth hon, gofynnwch i'ch meddyg eich cyfeirio atom.
Neu cysylltwch ag un o'n timau yn uniongyrchol (Hunan gyfeirio):
- Tîm Gwasanaeth Cymdeithasol Iechyd Meddwl De Gwynedd (9yb – 5yp, dydd Llun i ddydd Gwener)
01766 772599
- Tîm Gwasanaeth Cymdeithasol Iechyd Meddwl Arfon (9yb – 5yp, dydd Llun i ddydd Gwener)
01286 682880
- Rhif allan o oriau
01248 353 551
- Ffurflen ar-lein: cysylltu â'r Tim Iechyd Meddwl
Mae’n hanfodol bod yr unigolyn wedi rhoi caniatâd cyn bod modd i chi eu cyfeirio at y gwasanaeth
Gwybodaeth bellach
Cysylltau defnyddiol
111 - Cymorth brys (Os ydych yn teimlo eich bod angen siarad â rhywun ar frys, ffoniwch 111 a dewiswch opsiwn 2)
Gwasanaeth Iechyd Meddwl Clinigol
Bydd unigolion sydd yn cael/ neu sydd angen cefnogaeth iechyd meddwl clinigol yn parhau i’w dderbyn gan y Gwasanaeth Iechyd (BIPBC), unai yn Uned Hergest, Ysbyty Gwynedd (Ardal Arfon) neu Ysbyty Alltwen (Ardal De Gwynedd):
- Uned Hergest, Ysbyty Gwynedd, Bangor, Gwynedd 03000 840306
- Ysbyty Alltwen, Tremadog, Porthmadog, Gwynedd 03000 850027
Bydd unigolion sydd ag anghenion iechyd meddwl clinigol a chymdeithasol yn derbyn cefnogaeth gan y ddau wasanaeth.