Teleofal

Beth ydi teleofal?

Mae teleofal yn wasanaeth monitro sy’n eich galluogi i alw am help ddydd neu nos drwy gyffwrdd botwm, neu drwy gyfres o synwyryddion awtomatig yn eich cartref.

Ffordd ataliol o gynnig gofal o bell i drigolion yw teleofal. Mae’n gallu bod o gymorth i leihau risgiau o fewn eich cartref gan eich galluogi i fyw bywyd mor annibynnol â phosib.

Cymerwch olwg ar y fideo isod i ddysgu mwy am teleofal, a sut y gallai fod o fudd i chi neu rywun arall yr ydych yn adnabod:

 

Pa offer sydd ar gael?

Mae ein pecyn teleofal yn cynnwys:

  • Uned ‘Lifeline’ gyda phendant gwddf neu garddwrn

  • Synhwyrydd mwg yn eich cartref

Sut mae’r gwasanaeth yn gweithio?

Mae'r broses o osod pecyn teleofal yn syml ac yn gyflym. Yr unig beth sydd angen yw cyswllt i linell teleffon a soced trydan gerllaw, a byddwn yn medru trefnu apwyntiad i un o’n gosodwyr osod offer yn eich cartref.

Peidiwch â phoeni os nad oes gennych linell teleffon neu os ydych eisoes wedi trosglwyddo i rwydwaith teleffon digidol, mae gennym rywbeth sydd yn gweithio i bawb.

Unwaith mae’r offer wedi’i osod yn eich cartref, bydd modd pwyso’r botwm ar eich pendant gwddf neu garddwrn i alw am gymorth. Bydd hyn cychwyn galwad ffôn awtomatig gyda’r ganolfan fonitro Galw Gofal trwy eich uned ‘Lifeline’.


Beth yw'r gost?

Mae cost o £5.19 yr wythnos* am becyn teleofal.

Mae’r ffi wythnosol yn cynnwys:

  • cost llogi offer teleofal

  • cost monitro 24 awr

  • costau cynnal a chadw

  • a chost gosod offer

*Noder bod Cyngor Gwynedd yn adolygu ffioedd gofal yn flynyddol, felly gall cost wythnosol teleofal newid yn dilyn adolygiad blynyddol

 

Sut mae cofrestru?

Cysylltwch â ni i gofrestru am wasanaeth teleofal: 

Os ydych chi'n denant i Gymdeithas Dai (e.e. Adra, Grŵp Cynefin, Tai Gogledd Cymru etc), gallwch gysylltu â nhw yn uniongyrchol i drafod ei gwasanaeth teleofal.

 

Offer arbenigol

Rydym yn deall na fydd pecyn teleofal yn cwrdd ag anghenion pob un. O ganlyniad, mae'r gwasanaeth hefyd yn darparu offer fwy arbenigol mewn rhai amgylchiadau e.e. sensoriaid epilepsi, 'falls detectors' ayyb. I drafod hyn gallwch gysylltu efo eich gweithiwr cymdeithasol, neu gysylltu gyda’ch tîm gwaith cymdeithasol lleol.  

Ddim yn siŵr â phwy i gysylltu? Cysylltwch â ni