Cadw'n gynnes
Gwneud eich cartref yn gynnes
Mae help ar gael os ydych yn ei chael hi’n anodd cadw eich tŷ yn gynnes. Ella eich bod yn gymwys i gael gwaith ar eich tŷ fel insiwleiddio, systemau gwresogi newydd ac ati sydd yn gwella faint mae’n ei gostio i chi gynhesu’ch ty, drwy gynlluniau fel Nyth ac Eco 4.
Ewch i dudalen we Ynni yn y cartref i gael gwybod mwy am gynlluniau fel Nyth ac Eco, neu cysylltwch gyda ni i weld os ydych chi’n gymwys neu angen cyngor:
Llefydd i fynd i gadw'n gynnes - Croeso Cynnes
Mae nifer o leoliadau ar draws Gwynedd yn cynnig "Croeso Cynnes" i unrhyw un ddod i mewn am gysgod, sgwrs neu baned.
Gweld mwy o wybodaeth am leoliadau Croeso Cynnes
Taliad tywydd oer
Nid oes rhaid i chi wneud cais am y taliad hwn. Os ydych yn gymwys byddwch yn cael eich talu’n awtomatig..
Gweld gwybodaeth Taliadau Tywydd Oer
Taliad Tanwydd Gaeaf
Os cawsoch eich geni ar neu cyn 25 Medi 1957, gallech gael rhwng £250 a £600 i’ch helpu i dalu’ch biliau gwresogi.
Gweld gwybodaeth Taliad Tanwydd Gaeaf
Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes
Gallech chi gael gostyngiad o £150 ar eich bil trydan ar gyfer gaeaf 2023 i 2024 o dan y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes.
Dyw’r arian ddim yn cael ei dalu i chi – mae’n ostyngiad untro ar eich bil trydan, rhwng dechrau Hydref 2023 a 31 Mawrth 2024.
Gweld gwybodaeth Gostyngiad Cartrefi Cynnes
Paratoi am y gaeaf: Cyngor a chefnogaeth i bobl hŷn
Gall y gaeaf fod yn adeg anodd i ni gyd, ac yn enwedig i bobl hŷn.
Gweld taflen Paratoi am y Gaeaf Cyngor- Gwynedd Oed Gyfeillgar
Hybiau Cymunedol
Gallwch hefyd gael help a gwybodaeth am fwyd, ynni ac arian drwy’r hwb yn eich ardal lleol.
Gweld manylion cyswllt hybiau lleol