Arian a dyled

Cymorth ariannol mewn argyfwng

Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn cynnig dau grant gwahanol nad oes angen i chi eu talu yn ôl.

Taliadau Cymorth mewn Argyfwng (EAP)

Grant i helpu â chostau hanfodol, megis bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio mewn achos o argyfwng os ydych:

  • yn wynebu caledi ariannol difrifol
  • wedi colli eich swydd
  • wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf

Mwy o wybodaeth a gwneud cais 


Taliadau Cymorth i Unigolion (IAP)

Grant i’ch helpu chi, neu rywun yr ydych yn rhoi gofal iddo, i fyw'n annibynnol yn ei gartref neu eiddo yr ydych chi neu'r unigolyn yn symud iddo.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais

 

Sgamwyr a siarcod benthyg arian

 

Cymorth a chyngor pellach

Os ydych chi'n cael trafferth, cysylltwch â ni neu un o'n hasiantaethau partner am gyngor a chymorth:


Hybiau Cymunedol

Gallwch hefyd gael help a gwybodaeth am fwyd, ynni ac arian drwy’r hwb yn eich ardal lleol.