Mesur Perfformiad
Bob blwyddyn rydym fel Cyngor yn cyhoeddi Adroddiad Perfformiad Blynyddol er mwyn esbonio, yn glir ac yn gytbwys, beth yr ydym wedi ei gyflawni dros y flwyddyn flaenorol.
Mae Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2022/23 yn pwyso a mesur sut yr ydym wedi ymateb i’r blaenoriaethau oedd wedi eu cyhoeddi yn Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-23: Adolygiad 2022/23 (Cynllun y Cyngor).
Gan fod Cynllun y Cyngor yn datgan yn glir beth yw ein Blaenoriaethau Gwella, sef y prif feysydd neu brosiectau sydd angen i ni ganolbwyntio arnynt er mwyn gwneud y gwahaniaeth gorau i fywydau pobl Gwynedd, mae Rhan 1 o’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn disgrifio ein gwaith yn y meysydd yma.
Rydym hefyd wedi mesur sut mae ein Blaenoriaethau Gwella yn cyfrannu tuag at wireddu Amcanion Llesiant Cyngor Gwynedd a Nodau Llesiant Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, ac mae’r wybodaeth i’w gweld yn y Cyflwyniad ac yn Rhan 1.
Mae ail ran yr Adroddiad yn darlunio ein gwaith dydd i ddydd fesul adran o fewn y Cyngor, ac yn esbonio sut mae’r gwasanaethau hynny yn cynorthwyo pobl Gwynedd.
Rydym yn mesur ein perfformiad yn barhaus drwy’r flwyddyn ac mae Aelodau’r Cabinet yn cyflwyno adroddiadau i gyfarfodydd y Cabinet dwywaith y flwyddyn (yn ychwanegol i'r Adroddiad Blynyddol) yn disgrifio’r cynnydd. Mae aelodau o Bwyllgorau Craffu’r Cyngor hefyd yn rhan o’r broses barhaus hon o herio perfformiad. Mae’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn dod â’r adroddiadau cynnydd yma at ei gilydd ac yn pwyso a mesur y llwyddiant dros y flwyddyn.
Mae gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn golygu fod angen i’r Cyngor adolygu'n barhaus i ba raddau y mae'n bodloni'r gofynion perfformiad ac mae ein Hunanasesiad ar gyfer 2022/23 i'w weld yn Rhan 3 o'r Adroddiad.
Gwybodaeth bellach
Mae gwybodaeth bellach am rai elfennau o berfformiad Cyngor Gwynedd ar y gwefannau cenedlaethol canlynol:
mylocalcouncil.info
infobasecymru.net
Os ydych angen yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol mewn iaith neu fformat arall ffoniwch 01766 771000 neu e-bostiwch cydraddoldeb@gwynedd.llyw.cymru
Os ydych angen mwy o wybodaeth am yr Adroddiad hwn cysylltwch â Thîm Cefnogi Busnes y Cyngor drwy ffonio 01766 771000 neu anfonwch e-bost at: cynlluncyngor@gwynedd.llyw.cymru
Adroddiadau Perfformiad Blaenorol
Mae Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 2016-17 yn adrodd ar ein perfformiad yn erbyn blaenoriaethau Cynllun Strategol 2013-17.