Grantiau busnes – unedau Hunan Ddarpar
Neges bwysig i berchnogion unedau hunan-ddarpar - diweddariad 1af Gorffennaf 2020
Fe gaewyd cynllun Grantiau Busnes Llywodraeth Cymru (Trethi Busnes) am 5 y.h. Dydd Gwener, Mehefin 30ain 2020. Nid oes modd derbyn ceisiadau newydd bellach.
Mae’r Cyngor eisoes wedi dosbarthu dros £53 miliwn i dros bedair mil a hanner o drethdalwyr. Os ydych wedi cyflwyno cais, byddwn yn ei brosesu cyn gynted â phosib. Os oes yna wybodaeth ar goll, fe gysylltwn â chi i drafod ymhellach. Diolch am eich amynedd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau addasedig mewn perthynas â llety hunan-ddarpar. Yn unol â’r canllawiau addasedig, ni fydd eiddo o’r fath yn gymwys am grant oni fodlonir meini prawf penodol.
Anfonwyd neges e-bost gan y Cyngor i bob perchennog llety hunan-ddarpar ar 29 neu 30 Ebrill yn egluro’r camau nesaf. Os ydych wedi cyflwyno cais am grant a heb weld y neges, a fuasech cystal â gwirio eich ffolder “spam”.
Os nad yw’r eiddo erioed wedi bod yn eiddo domestig, gofynnir i chi adael i’r Cyngor wybod mor fuan â phosib. Os ydyw, er mwyn hwyluso’r broses o asesu eich cais yn sgil y rheolau newydd gofynnir i drethdalwyr ymateb i’r neges e-bost gan atodi:
- Tystiolaeth o gyfrifon masnachu ar gyfer y ddwy flynedd yn uniongyrchol cyn blwyddyn ariannol gyfredol y busnes
- Tystiolaeth fod y llety hunan-ddarpar wedi cael ei osod am gyfnod o 140 diwrnod neu fwy yn y flwyddyn ariannol 2019-20.
Er mwyn hwyluso’r drefn o asesu eich cais, a fyddech cystal â chynnwys eich cyfeirnod Treth Busnes yn llinell pwnc eich neges ymateb.
Ar ôl asesu’r dystiolaeth gychwynnol a ddarperir mewn ymateb i’r uchod, mewn rhai achosion bydd angen i’r Cyngor gael tystiolaeth bellach megis dychweliadau treth incwm er mwyn bodloni gofynion y cynllun. Yn yr achosion hynny byddwn yn ysgrifennu at ymgeiswyr gan ofyn iddynt gyflwyno’r wybodaeth trwy borth diogel ar wefan y Cyngor. Peidiwch ag atodi data sensitif o’r math yma i’ch neges e-bost.