Mesur Perfformiad

Rydym fel Cyngor yn cyhoeddi ein Hadroddiad Perfformiad Blynyddol er mwyn esbonio yn glir ac yn gytbwys, beth yr ydym wedi’i gyflawni dros y flwyddyn flaenorol. 

Cynhelir cyfarfodydd herio a chefnogi perfformiad ar lefel Adrannol bob yn ail fis, a maent yn canolbwyntio ar gynnydd prosiectau Cynllun y Cyngor, perfformiad gwasanaethau (sef y gwaith ‘dydd i ddydd’), a’r ymateb i’r prif risgiau o fewn y Gofrestr Risg Corfforaethol. Mae’r adrannau hefyd yn adrodd yn uniongyrchol ar eu perfformiad i’r Pwyllgorau Craffu yng nghylch Mehefin a’r Hydref.

Gellir cael mynediad i’r adroddiadau perfformiad o fewn y pwyllgorau craffu isod.

 

Pwyllgorau Craffu

  • Addysg ac Economi (Adrannau Addysg; Economi a Chymuned; Cyllid; Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol)
  • Cymunedau (Amgylchedd a Priffyrdd, Peirianneg ac YGC)
  • Gofal (Oedolion, Iechyd a Llesiant; Plant a Chefnogi Teuluoedd a Tai ac Eiddo)

 

Adroddiadau Perfformiad Blynyddol

Gweld Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2024/25

Uchafbwyntiau'r Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad

Mae Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad Cyngor Gwynedd yn pwyso a mesur sut yr ydym wedi ymateb i’r blaenoriaethau yng Nghynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 gan hefyd roi trosolwg o berfformiad dydd i ddydd. Cyflwynir yr hunan-asesiad hefyd yn flynyddol a hynny o dan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (2021)

 

Hunanasesiadau Cyngor Gwynedd

Gweld Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2024/25

Y Meysydd Blaenoriaeth o fewn yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad yw ein Hamcanion Llesiant dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Bydd yr Amcanion yn cyfrannu’n uniongyrchol at gyflawni’r saith nod llesiant cenedlaethol.

 

Adroddiad Blynyddol ar Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol

Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2024, yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Cyngor Gwynedd, lunio adroddiad blynyddol i ddangos sut y maent wedi cydymffurfio â’r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol a sefydlwyd gan y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus.

Gweld Adroddiad Blynyddol ar Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol 2024/25

 

Adroddiadau Perfformiad a Hunanasesiadau Blaenorol sy’n adrodd ar Gynllun y Cyngor 2019-24

 

Mae gwaith y Cyngor yn cael ei archwilio gan gyrff allanol megis Archwilio Cymru, Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru er mwyn mesur perfformiad. Ceir yr adroddiadau perthnasol ar eu gwefannau.

 

Cysylltu â ni

Os ydych angen yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol mewn iaith neu fformat arall, cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 771000 neu e-bostio CynllunCyngor@gwynedd.llyw.cymru