Cefnogi Teuluoedd
Gwasanaethau i gefnogi teuluoedd
Gall rhai teuluoedd wynebu trafferthion ar adegau ac mae nifer o wasanaethau yn cefnogi teuluoedd drwy’r cyfnodau anodd yma.
Os ydych yn teimlo bod eich teulu angen help neu gefnogaeth, gallwch ofyn yn uniongyrchol am y gwasanaeth. Efallai eich bod yn cael trafferthion gyda pethau fel:
• Anabledd o fewn y teulu
• Problemau a straen rhiantu
• Ymddygiad anodd yn y cartref
• Iechyd corfforol, emoisynol a lles
• Camddefnydd o alcohol a chyffuriau
• Beichiogrwydd yn yr arddegau
• Materion tai
• Ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn y teulu
• Problemau gyda pherthnasoedd
• Problemau yn yr ysgol
• Datblygiad iaith, lleferydd a sgiliau chwarae plant
• Trais yn y cartref
• Dadlau’n Well - Cwrs ar-lein i helpu rhieni i gyfathrebu â’i gilydd yn well
• Fi ti a’r Babi hefyd - Cwrs ar-lein ar gyfer rhieni newydd a rhieni sy’n disgwyl
• Gwneud pethau’n iawn i blant - Cwrs ar-lein ar gyfer rhieni sy’n gwahanu i’w helpu i reoli gwrthdaro a lleihau’r effaith ar blant
Ffurflen Gyfeirio
Os ydych yn weithiwr, ac yn poeni am deulu, gallwch gyfeirio teuluoedd atom:
Ffurflen Cyfeirio
Bydd y ffurflen yn cael ei defnyddio ar gyfer cyfeiriadau diogelu statudol a chyfeiriadau am wasanaethau cymorth cynnar a chefnogi teulu (drwy raglenni megis Teuluoedd yn Gyntaf).
Dewch o hyd i gymorth, gwasanaethau a gwybdoaeth eraill sydd ar gael i chi drwy ddefnyddio y linc hwn i hidlo eich chwiliad - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Cysylltu â ni
Os ydych yn meddwl eich bod angen help, cysylltwch â ni. Gallwn ddweud wrthych a ydych yn gymwys am wasanaeth a chefnogaeth.
Ffôn: 01758 704455 (9:00 - 17:00, Llun - Gwener)
Ffôn y tu allan i oriau: 01248 353 551 (unrhyw amser arall ac ar Ŵyliau'r Banc)
cyfeiriadauplant@gwynedd.llyw.cymru