Mae’r Ddeddf Hapchwarae 2005 yn dweud ein bod angen cyhoeddi Polisi Hapchwarae bob tair blynedd. Mae’r Polisi presennol angen ei adolygu; ac rydym yn ymgynghori ar bolisi newydd.
Paham yr ydym yn ymgynghori
Mae’r Polisi Hapchwarae yn amlinellu sut yr ydym yn cyfarch ein cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Hapchwarae 2005. Rydym yn awyddus i glywed barn ein preswylwyr, busnesau, gweithredwyr hapchwarae , awdurdodau cyfrifol a phartïon eraill hefo diddordeb er mwyn ein cynorthwyo i lunio ein polisi.
Beth sy’n digwydd nesaf
Pan fydd yr ymgynghoriad yn dod i ben, byddwn yn defnyddio’r ymatebion i’n cynorthwyo i lunio fersiwn terfynol o’r Polisi Hapchware am 2017-2020. Fe fydd y polisi yn cael ei drafod gan Aelodau’r Pwyllgor Trwyddedu; a’r Cyngor llawn fydd yn gwneud penderfyniad ar y fersiwn terfynol yn ystod tymor yr Hydref 2017.
Sut i ymateb
Os ydych yn awyddus i ymateb i’r ymgynghoriad fe allwch wneud hynny, yn ysgrifenedig cyn 12 Gorffennaf 2017.
Anfonwch eich ymateb ysgrifenedig at yr Uned Drwyddedu:
Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd
Cyngor Gwynedd
Stryd y Jêl
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH
Neu drwy e bost - Trwyddedu@gwynedd.llyw.cymru