Y drefn dendro
Tendro yw'r broses y mae'r Cyngor yn ei defnyddio i wahodd cyflenwyr i ddarparu nwydd neu wasanaeth i’r Cyngor.
Bydd Cyngor Gwynedd yn tendro am unrhyw nwydd, gwasanaeth neu waith sydd â gwerth dros £50,000. Nod y broses dendro yw creu cystadleuaeth effeithiol, teg a thryloyw, a sicrhau gwerth am arian i'r Cyngor a’r trethdalwr.
Y prosesau tendro mwyaf cyffredin yn y Cyngor yw naill ai proses 'Agored' neu broses 'Cyfyngedig'.
- Agored: Mae'r drefn 'Agored' yn galluogi cyflenwr i gyflwyno tendr heb fynd drwy drefn cyn-gymhwyso. Mae’n cael ei ddefnyddio pan mae nifer y cyflenwyr yn brin neu ble mae'r risg yn isel.
- Cyfyngedig: Mae'r drefn 'Cyfyngedig' yn gofyn i gyflenwyr gwblhau Holiadur Cyn-gymhwyso cyn cael cynnig tendro. Mae’n cael ei defnyddio ble mae llawer o gystadleuaeth neu/a ble mae'r risg yn uchel.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn y cwestiynau ac atebion isod:
Ble mae'r Cyngor yn hysbysebu tendrau?
Mae Cyngor Gwynedd yn hysbysebu tendrau drwy borth Llywodraeth Cymru: Gwerthwch i Gymru
Oes modd cael gwybod pan fydd tendr perthnasol i fy nghwmni yn cael ei hysbysebu?
Oes. Wrth gofrestru gyda Gwerthwch i Gymru byddwch yn creu proffil i’ch cwmni. Drwy gyflwyno gwybodaeth fanwl am eich cwmni o fewn y proffil bydd yn helpu Gwerthwch i Gymru i bennu pa dendrau all fod o ddiddordeb i'ch cwmni chi.
Os ydych wedi cynnwys eich manylion llawn a'r codau CPV (Common Procurement Vocabulary Codes) cywir, bydd y system yn anfon e-bost i chi fydd tendr perthnasol yn cael ei hysbysebu.
Beth ydi'r codau CPV (Common Procurement Vocabulary Codes)?
Y codau CVP ydi'r codau sydd yn cael eu defnyddio i adnabod gwahanol feysydd gwaith. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Gwerthwch i Gymru neu drwy gysylltu â Busnes Cymru ar 01248 672672.
A oes ffi am gofrestru ar wefan Gwerthwch i Gymru?
Na, does dim cost i gofrestru ac mae'r system yn hawdd i'w ddefnyddio.
Pwy arall sy'n defnyddio'r wefan Gwerthwch i Gymru?
Mae'r wefan Gwerthwch i Gymru yn cael ei ddefnyddio gan holl gyrff sector cyhoeddus Cymru. Golyga hyn fod modd i chi hyrwyddo eich cwmni, gweld hysbysebion sector cyhoeddus a chysylltu â holl sefydliadau cofrestredig y sector gyhoeddus yng Nghymru.
A oes manteision pellach o gofrestru?
Os ydych wedi cofrestru gyda Gwerthwch i Gymru gallwch hefyd;
- gael mynediad at y newyddion diweddaraf a gwybodaeth am ddigwyddiadau yng Nghymru sy'n ymwneud â chaffael a thendro
- cymryd rhan mewn fforymau gyda chyflenwyr a phrynwyr i drafod ymarfer gorau
- edrych drwy'r gronfa ddata o gyflenwyr am gyfleoedd i gyflwyno ceisiadau ar y cyd
- lawrlwytho dogfennau defnyddiol fel deddfwriaeth yr UE, canllawiau tendro, polisïau prynwyr ac erthygl ar sut i lwyddo.
Ydi'n bosib i mi gael fy nghynnwys ar restr cyflenwyr cymeradwy'r Cyngor?
Mae'r Cyngor yn gwyro oddi wrth yr arfer o ddefnyddio 'Rhestrau Cymeradwy' ac yn ffafrio contractau fframwaith.
Rydym yn argymell bod cyflenwyr yn cofrestru ar wefan Gwerthwch i Gymru er mwyn gweld ein hysbysebion am gontractau a cheisiadau am ddyfynbrisiau.
Beth ydi tendr Ewropeaidd (OJEU)?
Mae'n rhaid i Gyngor Gwynedd ddilyn rheolau Ewrop wrth dendro am gontractau sydd â gwerth dros drothwy arbennig. Mae rhagor o wybodaeth a manylion am y trothwyon ar gael ar wefan Swyddfa Masnach y Llywodraeth.
Rwyf wedi clywed y bydd newidiadau yn cael eu cyflwyno i drefn dendro, prynu a thalu Cyngor Gwynedd. A fydd hyn yn effeithio ar fy nghwmni i?
Bydd rhai newidiadau yn cael eu cyflwyno i'r ffordd mae'r Cyngor yn masnachu gyda'i gyflenwyr wrth i'r system electronig e-gaffael gael ei chyflwyno.
Bydd e-gaffael yn galluogi cwmnïau i dendro a derbyn archebion yn electronig a hefyd yn ein galluogi ni i ddychwelyd anfonebau yn electronig. Bydd hyn yn creu arbedion sylweddol i gostau tendro, archebu ac anfonebu i'r ddau barti. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan e-dendr Cymru
Bydd ein tendrau yn parhau i gael eu hysbysebu ar wefan Gwerthwch i Gymru. Y gwahaniaeth mwyaf i ddisgwyl yw y bydd rhyngweithiad rhwng y Cyngor a chyflenwyr yn electronig yn hytrach nag ar bapur.
Ble alla i ddod o hyd i'r Amodau a Thelerau?
Gallwch hefyd ddod o hyd i lawer o wybodaeth ddefnyddiol yn y llyfryn Gweithio gyda Gwynedd.
Oes cymorth ar gael i gwblhau dogfennau tendr y Cyngor?
Bydd manylion cyswllt ar gyfer derbyn cymorth wedi ei nodi ar y ddogfen dendr ei hun. Gall Busnes Cymru hefyd gynnig cymorth ar sut i gwblhau dogfennau tendr, a chynnal sesiynau gyda chyflenwyr lleol. Cysylltwch â Busnes Cymru am fanylion pellach ar 01745 585 025.
Beth sy’n digwydd os ydy fy nghais yn hwyr yn cyrraedd?
Yn anffodus, nid yw rheolau mewnol y Cyngor yn ein caniatáu i dderbyn unrhyw gais sy’n dod i law ar ôl y dyddiad/amser cau.
Os yn nad yw fy nghais yn llwyddiannus, ydi hi’n bosib derbyn adborth pam?
Oes. Mae gan y Cyngor dyletswydd i gynnig adborth ar unrhyw gais aflwyddiannus er mwyn i gyflenwyr gallu gwella ar gyfer y dyfodol.
I dderbyn adborth, cysylltwch gyda’r pwynt cyswllt sydd wedi ei nodi ar y ddogfen dendr neu gydag Uned Caffael Gorfforaethol Cyngor Gwynedd drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i ateb i'ch cwestiwn ar y dudalen hon, cysylltwch â ni ar 01286 679213 neu caffael@gwynedd.llyw.cymru