Trwydded Fan Canolfan Ailgylchu

Os ydych yn defnyddio fan i ddod â gwastraff o’ch cartref i ganolfan ailgylchu byddwch angen trwydded fan.

Mae'r drwydded fan ar gael AM DDIM. Bydd yn caniatáu i chi archebu hyd at 18 slot y flwyddyn mewn canolfan ailgylchu er mwyn cael gwared o wastraff tŷ (dim gwastraff masnachol). Telerau ac amodau yn bodoli

Gwneud cais am Drwydded Fan Canolfan Ailgylchu

(Rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)

 

Cerbydau sydd angen trwydded
Rhaid cael Trwydded Fan ar gyfer cerbydau yn y categori N1 [Cerbydau wedi eu dylunio a’u hadeiladu i gludo nwyddau gydag uchafswm màs heb fod yn fwy na 3,5 tunnell gael trwydded].

Os oes gan gerbydau yn y categori N1 ffenestri a seddi yn y cefn NID oes rhaid cael trwydded.

Nid yw'n bosib i faniau sydd wedi ei llogi wneud cais am drwydded ar hyn o bryd.



Sut mae defnyddio'r drwydded?
Ar ôl gwneud cais am drwydded fan, gallwch archebu slot canolfan ailgylchu.

Archebu slot canolfan ailgylchu
(bydd angen mewngofnodi)

Pan fyddwch yn cyrraedd y ganolfan ailgylchu bydd staff yn gallu adnabod bod gennych drwydded oddi wrth rif cofrestru eich cerbyd.

 

Pam bod angen trwydded?
Ar hyn o bryd mae rhai busnesau yn mynd â gwastraff masnachol i’r canolfannau ailgylchu. Mae’r gost o waredu gwastraff y busnesau yma yn sylweddol, a’r trethdalwyr sy'n ysgwyddo’r gôst. Mae’r drefn newydd yma yn un o’r mesurau sy’n cael ei ddefnyddio i rwystro hyn rhag digwydd.  


Gallwch hefyd wneud cais am drwydded drwy ffonio 01766 771000.