Gwneud cais am fudd-dal

  • I weld a ydych yn gymwys i dderbyn budd-dal tai a help i dalu eich Treth Cyngor defnyddiwch y
    gyfrifiannell ar-lein

Os ydych eisiau ffurflen bapur neu angen help i lenwi'r ffurflen ar-lein cysylltwch â ni.

 

Os ydych yn dymuno gwneud cais, neu wedi gwneud cais am Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chefnogaeth, Credyd Pensiwn neu Gredyd Cynhwysol, yna bydd raid i chi wneud cais budd-dal tai yn uniongyrchol drwy'r Ganolfan Waith neu’r Gwasanaeth Pensiwn (Saesneg yn unig).

Ar ôl i chi wneud cais, bydd y Ganolfan Waith neu’r Gwasanaeth Pensiwn yn gadael i ni wybod, a byddwn ni yn anfon ffurflen fer i chi ynglŷn â derbyn cymorth i dalu’ch Treth Cyngor


Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor yn barod, a ddim yn siŵr a oes angen cwblhau ffurflen newydd neu beidio, cysylltwch â ni i drafod.