Anableddau ac anghenion arbennig
Os ydych yn mynychu un o’r ysgolion / colegau isod, rydym am eich annog i deithio ar y Rhwydwaith os ydi hynny yn bosib, ac felly byddwch angen gwneud cais ar-lein.
- Ysgol Pendalar neu Ysgol Hafod Lon
- Cyrsiau AAA yng Ngholeg Llandrillo Glynllifon a Dolgellau a Choleg Menai Llangefni.
Ond, os nad yw hyn yn bosib gallwch wneud cais am Docyn Teithio 16+ Anghenion Arbennig (drws i ddrws)
Mae ffi fesul tymor am y Tocyn Teithio 16+ Anghenion Arbennig.
Pris:
- Tymor 1 (Hydref): £120
- Tymor 2 (Gwanwyn): £120
- Tymor 3 (Haf): £60
Gwneud cais ar-lein: Tocyn Teithio 16+ (anghenion arbennig)
Cewch fanteisio ar y cynllun cludo am hyd at 4 blynedd o ddechrau eich tymor cyntaf, neu tan ddiwedd y flwyddyn ysgol ar ôl eich pen-blwydd yn 21 oed.
Anghenion symudoledd arbennig dros dro
Os ydych yn cael trafferth symud dros dro, cysylltwch â Galw Gwynedd ar 01766 771000 i drafod eich anghenion a threfnu asesiad meddygol arbenigol priodol.