Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cwymp sylweddol wedi bod yn niferoedd disgyblion Ysgol Cwm y Glo.
Gyda capasiti o 72 o lefydd, mae niferoedd wedi disgyn yn flynyddol gan adael 6 disgybl ar y gofrestr ar y diwrnod cyntaf yn nhymor mis Medi 2018. Erbyn 18 Medi 2018, roedd y 6 disgybl yma wedi symud i ysgolion eraill.
Gan nad oedd disgyblion yn yr ysgol ar ddiwrnod cyfrifiad ysgolion, sef y 3ydd dydd Mawrth ym mis Ionawr 2019, ac wedi trafodaethau rhwng y Corff Llywodraethol a Swyddogion Cyngor Gwynedd, penderfynwyd cynnig i gau'r ysgol.
I gyflwyno cynnig i gau ysgol, yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru yn Neddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, mae angen dilyn trefn statudol. Gellir gweld y camau ynghlwm â'r drefn yma isod:
Chwefror 2019 - Cyflwyno adroddiad i Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd. Yna mi fydd yr Aelod Cabinet yn penderfynu caniatáu cyhoeddi Rhybudd Statudol ar y cynnig, ai peidio.
Chwefror 2019 - Yn ddibynnol ar benderfyniad yr Aelod Cabinet, bydd Rhybudd Statudol yn cael ei gyhoeddi. Bydd posib gwrthwynebu'r cynnig ar y pwynt yma.
Mawrth 2019 - Yn dilyn y cyfnod Rhybudd Statudol, bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd, gan gynnwys unrhyw wrthwynebiadau a dderbynnir. Mi fydd yr Aelod Cabinet yna'n gwneud penderfyniad terfynol i ganiatáu’r cynnig ai peidio.
Awst 2019 - Bydd Ysgol Cwm y Glo yn cau yn ffurfiol, neu barhau gyda'r drefn bresennol.
Adroddiad Swyddog - Taflen Benderfyniad