Cychwynnwyd y broses o adolygu Dalgylch Y Berwyn yn ystod Hydref 2009.
Sefydlwyd Panel Adolygu Dalgylch Y Berwyn i gynorthwyo'r Arweinydd Portffolio Addysg i lunio cynigion ar gyfer trefniadaeth ysgolion y dalgylch. Roedd aelodaeth y Panel Adolygu Dalgylch yn cynnwys cynrychiolwyr ysgolion y dalgylch, gan gynnwys pennaeth, cadeirydd llywodraethwyr a rhiant lywodraethwr o bob ysgol gynradd ac uwchradd, cynghorwyr lleol y dalgylch yn ogystal â chynrychiolaeth o Esgobaeth Llanelwy. Estynnwyd gwahoddiad i eraill ar gais y Panel Adolygu Dalgylch.
Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd Panel Adolygu Dalgylch rhwng 04/11/09 a 12/05/10. Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda'r ysgolion unigol yn ogystal er mwyn egluro'r newyddion diweddaraf i holl staff yr ysgol ac i dderbyn eu sylwadau a'u cwestiynau.
Ar ddiwedd y trafodaethau cyflwynodd yr Arweinydd Portffolio Addysg ei chynigion ar gyfer y dalgylch i'r cylch democrataidd o fewn y Cyngor. Cymeradwywyd ei chynigion ac aethpwyd ymlaen i drefnu cyfnod o ymgynghori statudol.
Ymgynghori statudol
Cynhaliwyd cyfnod o ymgynghori statudol yn nalgylch y Berwyn rhwng 13 Rhagfyr 2010 a 4 Chwefror 2011 a lluniwyd dogfen ymgynghori statudol yn unol â gofynion Deddf Safonau Fframwaith Ysgolion 1998.
Derbyniwyd nifer o sylwadau a cyflwynwyd adroddiad i’r Cyngor Llawn ar 12/05/11 a phenderfynwyd:
(i) Er mwyn hwyluso sefydlu'r Campws Dysgu Gydol Oes arfaethedig, cymeradwyo'r bwriad i gau Ysgol y Berwyn, Ysgol Beuno Sant ac Ysgol Bro Tegid ar 31 Awst 2015 a chyhoeddi rhybuddion statudol yn unol ag Adran 29 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 i'r perwyl hwnnw.
(ii) Cymeradwyo'r cynnig i sefydlu Ysgol Gymunedol ar safleoedd Ysgol y Berwyn ac Ysgol Beuno Sant i dderbyn disgyblion o'r amrediad oed 3 - 19 fel rhan o sefydlu Campws Dysgu Gydol Oes newydd yn nhref y Bala i agor ar 1 Medi 2015 a chyhoeddi rhybuddion statudol yn unol ag Adran 28 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 i'r perwyl hwnnw.
(iii) Cymeradwyo'r cynnig i gau Ysgol y Parc erbyn 31 Awst 2012, gan ddarparu lleoedd i blant yn y dalgylch yn Ysgol O. M. Edwards, Llanuwchllyn, ar ôl cwblhau gwaith uwchraddio ar Ysgol O M Edwards a chyhoeddi rhybuddion statudol yn unol ag Adran 29 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 i'r perwyl hwnnw.
(iv) Cyhoeddi'r Rhybuddion Statudol y cyfeiriwyd atynt yn (i), (ii) a (iii) uchod pan fydd yr adnoddau cyfalaf priodol wedi eu cadarnhau.
Yn ystod y cyfnod hwn bu newid yn y broses o ariannu prosiectau adeiladu mawr gan Lywodraeth Cymru.
Yng nghyfarfod y Cyngor Llawn 01/03/2012 cymeradwywyd cyhoeddi Rhybudd Statudol ar argymhelliad (iii), sef i gau Ysgol Y Parc, Bala.
Rhyddhawyd y Rhybudd Statudol i gau ysgol Y Parc ar 05/03/2012 gan ganiatáu cyfnod o 1 mis i dderbyn unrhyw wrthwynebiadau. Gweler copi o’r Rhybudd Statudol yn atodol isod.
Yn dilyn derbyn gwrthwynebiadau i’r Rhybudd Statudol roedd yn ofynnol i'r Cyngor ddanfon y mater yn ei gyfanrwydd at Weinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru am benderfyniad terfynol. Mae'r Llywodraeth yn datgan eu bod yn anelu i gyhoeddi penderfyniad terfynol ar gynigion ad-drefnu ysgolion o fewn 7 mis
Penderfyniad
Derbyniwyd penderfyniad Llywodraeth Cymru ar yr argymhelliad i gau Ysgol y Parc ym mis Medi 2012. Penderfynodd Leighton Andrews, Gweinidog Addysg a Sgiliau fel a ganlyn:
“Mae’r Gweinidog wedi penderfynu cymeradwyo’r cynnig i gau Ysgol y Parc, a chan ddibynnu ar ddewis y rheini, i drosglwyddo’r disgyblion i Ysgol OM Edwards ar y sail;
- Y bydd o leiaf, yn cynnal ac, yn ôl pob tebyg, yn gwella safon y ddarpariaeth addysg yn yr ardal ac y dylai sicrhau cwricwlwm eang a chytbwys i bob grŵp oedran perthnasol;
- Y bydd yn caniatáu i ddisgyblion sy’n mynd i Ysgol y Parc, neu a fyddai wedi mynd yno fel arall, gael addysg mewn ysgol arall addas sydd o fewn pellter rhesymol; ac
- Y bydd yn helpu’r Awdurdod lleol i ddarparu patrwm sy’n ariannol gynaliadwy o ysgolion a gynhelir i safon dda”
Gweithredu
Ar ôl derbyn cymeradwyaeth y Llywodraeth i’r argymhelliad i gau Ysgol y Parc, mae’r gwaith o uwchraddio Ysgol OM Edwards wedi ei weithredu.
Yn dilyn buddsoddiad sylweddol o £1 miliwn agorodd Ysgol OM Edwards ei drysau i ddisgyblion y dalgylch newydd, sef o ardal Llanuwchllyn ac ardal Y Parc ym mis Medi 2013 o dan arweiniad Dilys Ellis-Jones, Pennaeth. Mae gwaith ac ymdrech sylweddol wedi ei wneud i sicrhau fod plant yr ardal yn cael ysgol o safon ragorol er mwyn derbyn addysg mewn amgylchfyd addas ar gyfer yr 21ain Ganrif. Mae plant sy'n byw yn ardal Y Parc yn dod o fewn dalgylch newydd Ysgol OM Edwards yn awtomatig.
Mae Ysgol Y Parc wedi cau yn swyddogol ar 31 Awst 2013.