Cartref > Trigolion > Ysgolion a dysgu > Moderneiddio Addysg > Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg – Cynyddu Capasiti Ysgolion Chwilog, Llanllechid a Bro Lleu

Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg – Cynyddu Capasiti Ysgolion Chwilog, Llanllechid a Bro Lleu

Cynyddu Capasiti Ysgol Chwilog

Cynhaliwyd cyfnod gwrthwynebu statudol rhwng 8 Chwefror a 8 Mawrth 2023 ar y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Chwilog o 65 i 95 o ddysgwyr drwy ychwanegu dosbarth i Ysgol Chwilog, i fod yn weithredol 1 Medi 2023. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig. 

Ar ddydd Mawrth 15 Mai 2023, cymeradwywyd y cynnig drwy Taflen Benderfyniad aelod unigol o Gabinet Cyngor Gwynedd a daeth y penderfyniad yn weithredol ar 23 Mai 2023. 

Gweld y Taflen Benderfyniad. 

Mae y gwaith ar safle i ychwanegu dosbarth newydd i Ysgol Chwilog erbyn Medi 2023 wedi cychwyn a’n mynd yn dda.

 

Yn dilyn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol ar y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Chwilog o 65 i 95 o 1 Medi 2023, cyflwynwyd adroddiad ar yr ymgynghoriad i Gabinet Cyngor Gwynedd ar 24 Ionawr 2023. 

Ystyriwyd y sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd ar gynyddu capasiti Ysgol Chwilog ynghyd â’r ymatebion i’r sylwadau hynny, a phenderfynwyd: 

Cymeradwyo cyhoeddi rhybudd statudol a chynnal cyfnod gwrthwynebu, yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig i ehangu safle’r ysgol a fyddai’n cynyddu capasiti Ysgol Chwilog i 95 o 1 Medi 2023, sef cynnydd o dros 25% o’r capasiti presennol. 

Yn unol â’r penderfyniad, bydd Rhybudd Statudol yn cael ei gyhoeddi ar 8 Chwefror 2023. Gall unrhyw un wrthwynebu'r cynnig o fewn cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi'r rhybudd hwn, hynny yw erbyn 8 Mawrth 2023. 

Dylid anfon gwrthwynebiadau ysgrifenedig i Pennaeth Addysg, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH neu drwy anfon e-bost i moderneiddioaddysg@gwynedd.llyw.cymru 

Mae holl wybodaeth a dogfennaeth sy’n gysylltiedig â’r prosiect ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/moderneiddioaddysg.

Cabinet 24 Ionawr 2023 – adroddiad ymgynghori

Cynhaliwyd cyfnod ymgynghori statudol rhwng 19 Hydref a 30 Tachwedd 2022 ar y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Chwilog o 65 i 95 o 1 Medi 2023.

Mae’r adroddiad ymgynghori bellach wedi ei chyhoeddi a bydd yn cael ei thrafod gan Cabinet Cyngor Gwynedd ar 24 Ionawr 2023.  Mae’r adroddiad a’r atodiadau perthnasol, gan gynnwys dadansoddiad o’r ymatebion a dderbyniwyd ar wefan y Cyngor www.gwynedd.llyw.cymru/ycabinet (eitem 11).

Mewn cyfarfod Cabinet Cyngor Gwynedd ar 19 Gorffennaf 2022, cymeradwyodd y Cabinet yr argymhelliad i ymgymryd â phroses ymgynghori statudol ar gynyddu capasiti Ysgol Chwilog i 95, sef cynnydd o dros 25% o’r capasiti presennol, yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. 

Bydd yr ymgynghoriad statudol ar y cynnig i gynyddu capasiti yr ysgol o 65 i 95 o ddysgwyr drwy ychwanegu dosbarth i Ysgol Chwilog, i fod yn weithredol 1 Medi 2023, yn cael ei gynnal rhwng 19 Hydref a 30 Tachwedd 2022. 

Mae’r ddogfen ymgynghori statudol a’r holl ddogfennau perthnasol ar gael isod:

Dogfen Ymgynghori

Ffurflen Ymateb - Ffurflen Ymateb Ysgol Chwilog (office.com)

Dogfen Ymgynghori Plant

Holiadur Plant

 

Pecyn Cefndirol:

Cod Trefniadaeth Ysgolion 011/2018

Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

Addysg Gynradd o’r Ansawdd Gorau i blant Gwynedd

Asesiadau Effaith ar Nodweddion Cydraddoldeb, y Gymraeg ac Anfantais Economaidd-Gymdeithasol

Asesiad Llesiant Ysgol Chwilog

Asesiadau Effaith ar y Gymuned, Ansawdd a Safonau Addysg, Trefniadau Teithio Ysgol Chwilog

Adroddiad Cabinet a Thaflen Benderfyniad 19 Gorffennaf 2022 

Yn dilyn cyflwyno cais am gyllid o gynllun Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru i ychwanegu dosbarthiadau i Ysgol Chwilog, Ysgol Llanllechid ac Ysgol Bro Lleu,  i ymateb i rhagamcanion cynnydd yn niferoedd plant cynradd y dalgylch o ganlyniad i ddatblygiadau tai, cyflwynwyd adroddiad i Cabinet ar 19 Gorffennaf 2022 yn gofyn am ganiatâd i gyflwyno achosion busnes llawn gerbron Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau’r cyllid o’r Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg ar gyfer cyflawni dibenion y prosiectau isod:

a) Prosiect 1 – Buddsoddi dros £1.1m i gynyddu capasiti a gwella amgylchedd dysgu Canolfannau Iaith Gwynedd - Yr ail wedd.

b) Prosiect 2 – Buddsoddi dros £1.5m cyfalaf a £0.3m refeniw i gynyddu capasiti 3 ysgol (Llanllechid, Bro Lleu a Chwilog) er mwyn cefnogi cymunedau Cymraeg o arwyddocâd ieithyddol (h.y. cymunedau gyda dros 70% o siaradwyr Cymraeg) i ffynnu.

Yn ogystal, gofynnwyd am ganiatâd y Cabinet i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Chwilog i 95, sef cynnydd o dros 25% o’r capasiti presennol, yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, gan adrodd yn ôl i Gabinet yn dilyn cwblhau’r ymgynghoriad.

Yn dilyn ystyried yr adroddiad bu i’r Cabinet gymeradwyo y cynigion.