Ffederaleiddio Ysgol Bro Cynfal, Edmwnd Prys a Thanygrisiau

Yn ddiweddar mae cyrff llywodraethol Ysgol Bro Cynfal, Edmwnd Prys a Tanygrisiau wedi dod at ei gilydd i drafod y posibilrwydd o sefydlu ffederasiwn. Yn ystod tymor yr Haf 2023, sefydlwyd gweithgor, oedd yn cynnwys cynrychiolaeth o gyrff llywodraethol Ysgol Bro Cynfal, Ysgol Edmwnd Prys ac Ysgol Tanygrisiau er mwyn arwain ar y broses o ddatblygu’r cynnig i ffederaleiddio’r dair ysgol. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf o’r gweithgor ar 12 Gorffennaf 2023 er mwyn trafod opsiynau posib a’r ffordd ymlaen er mwyn cynnal trefn ymgynghori ffurfiol ar y cynnig i ffederaleiddio’r dair ysgol.

Yn dilyn cyfres o gyfarfodydd, penderfynodd y gweithgor, yn ogystal â’r tri corff llywodraethol y dylid cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar yr cynnig i ffederaleiddio’r tair ysgol.

Bydd yr ymgynghoriad ar ffederaleiddio Ysgol Bro Cynfal, Edmwnd Prys a Tanygrisiau yn rhedeg am gyfnod o 7 wythnos rhwng 5 Hydref 2023 a 23 Tachwedd 2023.

Mae’r ddogfen ymgynghori statudol, a’r holl ddogfennau perthnasol ar gael isod:

Os bydd gennych unrhyw ymholiad pellach, neu os ydych yn dymuno derbyn copïau caled o’r ddogfennaeth uchod, yna mae croeso i chi gysylltu â Ysgol Bro Cynfal, Ysgol Edmwnd Prys neu Ysgol Tanygrisiau: