Penderfynodd Aelodau Cabinet Cyngor Gwynedd flaenoriaethu adolygu dyfodol darpariaeth addysg yn ardal Groeslon, Carmel a Bronyfoel. Dyma rai o'r rhesymau a arweiniodd at hyn:
- Cyflwr adeilad Ysgol Y Groeslon
- Y cyfle i ddenu buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru
- Nifer llefydd gweigion yn yr ardal
- Anghyfartaledd yng nghost y pen
Yn dilyn cynnal cyfres o gyfarfodydd lleol ac asesiad manwl o'r opsiynau posibl, cyflwynodd Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Sian Gwenllian, ei argymhellion ynghylch trefniadaeth ysgolion yn ardal Groeslon, Carmel a Bronyfoel (Fron).
Argymhelliad Cynghorydd Sian Gwenllian yw adeiladu ysgol ardal newydd gwerth £4.8 miliwn ar safle presennol Ysgol Y Groeslon a chau'r ysgolion presennol yn Groeslon, Carmel a Fron.
Byddai'r argymhelliad i adeiladu ysgol ardal newydd yn:
- darparu ysgol newydd a chynaliadwy a fydd yn addas i'r diben
- sicrhau cysondeb o ran maint dosbarthiadau ac ystod oedran o fewn dosbarthiadau
- cwrdd â'r her o newidiadau yn y boblogaeth dros y blynyddoedd nesaf
- gwella'r amgylchedd addysgu ar gyfer y nifer uchaf posibl o ddisgyblion a darparu ysgol a fyddai'n cwrdd â disgwyliadau'r rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain
- sicrhau arweiniad a rheolaeth gadarn
- lleihau cost y pen addysg gynradd yn yr ardal
- sicrhau y byddai mwy o gyllid ar gael i fuddsoddi mewn disgyblion ac addysg
- lleihau’n sylweddol nifer llefydd gwag yr ardal
Cyflwynwyd adroddiad i Gabinet Cyngor ar 27 Chwefror 2013 er mwyn ystyried yr argymhellion i ymgynghori’n statudol ar gau’r dair ysgol gynradd presennol a sefydlu’r ysgol ardal. Penderfynodd y Cabinet gymeradwyo'r argymhellion ac aethpwyd ymlaen i drefnu cyfnod ymgynghori statudol.